Yn ystod Wythnos y Cynhalwyr (5-11 Mehefin), bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi pobl â dyletswyddau gofalu di-dâl.
Bydd Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yn cynnal ystod o achlysuron yn ystod yr wythnos i gydnabod gwaith, ymroddiad ac ymrwymiad cynhalwyr di-dâl sy'n gwneud cyfraniadau enfawr i'n cymunedau lleol.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae Wythnos y Cynhalwyr 2023 yn rhoi'r cyfle i ni roi'r gydnabyddiaeth y mae ein cynhalwyr di-dâl yn ei haeddu. Mae modd i unrhyw un fod â chyfrifoldebau gofalu y tu hwnt i'w bywyd gwaith prysur ac mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yno i gefnogi'r bobl hynny.
"Yn aml, mae cynhalwyr di-dâl o dan bwysau sylweddol wrth iddyn nhw geisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng eu gwaith, eu cyfrifoldebau gofalu ac, yn fwy aml na pheidio, eu bywyd teuluol. Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn ymuno â'r gweithgareddau a'r achlysuron sydd gyda ni ar y gweill yn ystod Wythnos y Cynhalwyr 2023 i'w helpu nhw gyda'u cydbwysedd bywyd/gwaith."
Mae Wythnos y Cynhalwyr yn ymgyrch flynyddol. Ei diben yw gwella ymwybyddiaeth o faterion gofal, tynnu sylw at yr heriau y mae cynhalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU.
Cymorth i Gynhalwyr Rhondda Cynon Taf: Cymorth i Gynhalwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Mae'r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i staff sy’n gynhalwyr di-dâl drwy ddod yn aelod o ‘Employers for Carers’. Ac yntau wedi'i gefnogi gan wybodaeth arbenigol Carers UK a Gofalwyr Cymru, mae Employers for Carers yn darparu cyngor ymarferol i gyflogwyr ar sut i gefnogi cynhalwyr neu'r rheiny a fydd yn dod yn gynhalwyr. Amcangyfrifir bod y nifer yma yn un o bob pedwar aelod o staff.
Mae gweithgareddau sydd ar y gweill ar gyfer cynhalwyr di-dâl yn ystod Wythnos y Cynhalwyr 2023 yn cynnwys:
Dydd Llun, 5 Mehefin – Dydd Llun Da (Marvellous Monday)
Bydd yr achlysur ymarferol yma'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, 11-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2BW rhwng 10am a 12pm.
Dydd Mawrth, 6 Mehefin – Sesiwn ‘Chatterbox’ Arbennig
Bore coffi croesawgar i gynhalwyr i gael sgwrs dros baned, gyda syrpréis ychwanegol i nodi Wythnos y Cynhalwyr! Bydd yr achlysur yma'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, 11-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2BW rhwng 10am a 11.30am.
Dydd Mawrth 6 Mehefin – Ein Cymuned Greadigol
Bydd y gweithdy yma'n dda i'r meddwl a'r enaid. Dyma gyfle i edrych yn fanylach ar themâu megis cysylltiadau, straeon personol a chymuned. Efallai y byddwch chi'n dysgu sgiliau newydd gan yr artist, Hannah, a chreu eich darn eich hun i fynd ag e adref gyda chi. Bydd yr achlysur yma'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, 11-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2BW rhwng 6.15pm a 7.45pm.
Dydd Mercher, 7 Mehefin – Cerddwyr Rhyfeddol (Wondrous Walkers) – Her Gymunedol
Ymunwch â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf ar her gerdded gyfeillgar a llawn hwyl. Byddwn ni'n dod ynghyd i wneud cymaint o lapiau â phosibl mewn tair awr. P'un a oes modd i chi eu helpu nhw i wneud 1 lap neu 10 lap, mae angen eich cefnogaeth chi arnyn nhw! Rydyn ni'n eich annog chi i ddod â phicnic gyda chi. Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, CF37 4PD rhwng 10am ac 1.30pm.
Dydd Iau 8 Mehefin – Dydd Iau Diolchgar (Thank you Thursday) – Achlysur Dathlu
Achlysur arbennig i gydnabod a dathlu cynhalwyr di-dâl yn ein cymunedau a chydnabod y gwahaniaeth y maen nhw'n ei wneud bob dydd. Os ydych chi'n adnabod cynhaliwr sy'n mynd yr ail filltir ac sy'n haeddu cael ei ddathlu, ewch i https://RCTCBC.welcomesyourfeedback.net/ikv404 i gyflwyno'ch enwebiad ac i gael gwybod rhagor. Os hoffech chi wylio'r achlysur, cysylltwch â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf i gofrestru eich diddordeb i fod yn bresennol. Nodwch: Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Bydd yr achlysur yma'n cael ei gynnal yn Eglwys Deml y Bedyddwyr, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 1QP rhwng 11am ac 1pm.
Dydd Gwener, 9 Mehefin – Sesiwn Bitesize: Materion Ariannol
Dyma weithdy i ddysgu am beth sydd ar gael yn y gymuned leol a dysgu ffyrdd newydd i reoli arian – o geiniog i geiniog yr â’r arian yn bunt! Bydd yr achlysur yma'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, 11-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd CF37 2BW, rhwng 1pm a 2pm.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o weithgareddau ac achlysuron Wythnos y Cynhalwyr yn Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk i gadw eich lle.
Mynediad rhatach i wasanaethau hamdden i gynhalwyr Rhondda Cynon Taf Mynediad rhatach i wasanaethau hamdden | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gynhalwyr sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Mae gwasanaethau yn cynnwys grwpiau cymorth i gyfoedion, sesiynau hyfforddi, achlysuron, cwnsela rhad ac am ddim i gynhalwyr, gwasanaeth cerdyn argyfwng i gynhalwyr, a mynediad rhatach i wasanaethau hamdden a gaiff eu cynnal gan yr awdurdod lleol.
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 281463. Hefyd, dilynwch Gynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf ar Facebook a Twitter.
Wedi ei bostio ar 22/05/23