Skip to main content

Gwobrau Cymru Daclus 2023

Tidy Wales Awards

Mae grŵp Valley Veterans RhCT yn dathlu wythnos yma ar ôl hawlio dwy Wobr Cymru Daclus 2023 sy'n cydnabod eu holl waith caled yn y gymuned yn helpu cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd nhw. 

Mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, enillodd Valley Veterans Wobr Arwyr Natur a'r Wobr am Gyflawniad Eithriadol. 

Mae'r Cyngor, sy'n gweithio'n agos gyda Valley Veterans, yn llongyfarch y grŵp ar ei lwyddiant yn ennill dwy o Wobrau Cymru Daclus 2023. 

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae'n wych bod pawb sy'n gysylltiedig â Valley Veterans wedi derbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol yma. A minnau'n ymweld â'u Clybiau Brecwast nhw'n rheolaidd, dw i'n gwybod eu bod nhw'n gwneud gwaith rhagorol yn eu cymunedau ar ran cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd. 

Mawr yw'n dyled ni i'r Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a heddiw. Fyddwn ni byth yn anghofio'r aberth maen nhw wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud. Mae Valley Veterans yn enillwyr teilwng yng Ngwobrau Cymru Daclus 2023, ac rydw i'n eu llongyfarch nhw ar eu llwyddiannau." 

Mae Gwobrau Cymru Daclus 2023 yn cael eu trefnu gan yr elusen Cadwch Gymru'n Daclus, sydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ledled Cymru i warchod ein hamgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol. Gweledigaeth yr elusen yw Cymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau. 

Mae sefydliad Valley Veterans yn cael ei arwain gan gyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'r Cyngor yn falch iawn o'i gefnogi. Cafodd ei sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl yn grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer y sawl a oedd yn dioddef o Straen Wedi Trawma (PTSD). Bellach mae'n ganolbwynt bywiog yn y gymuned gyda mwy na 140 o bobl yn cymryd rhan weithredol. 

Mae Valley Veterans yn cynnal Clwb Brecwast y Lluoedd Arfog bob dydd Iau, gan ddenu hyd at 60 o gyn-filwyr bob wythnos. 

Roedd Paul Bromwell, Prif Weithredwr Valley Veterans, yn y Gwarchodlu Cymreig ac mae’n ymwybodol iawn o effeithiau difrifol dychwelyd i fywyd sifil ar ôl gadael y Lluoedd Arfog. 

Dychwelodd Mr Bromwell i'w gartref yng Nghwm Rhondda yn 1982 heb dderbyn unrhyw gymorth proffesiynol wedi iddo ddychwelyd o Ynysoedd Falkland yn y 1980au. Fyth ers hynny mae Mr Bromwell wedi dioddef o Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD). 

Dywedodd Paul Bromwell: "Rydyn ni wedi ein syfrdanu'n llwyr gyda'r ddwy wobr yma ac yn diolch o galon i Gyngor Rhondda Cynon Taf, yr holl gontractwyr, cyllidwyr, cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr am gyfrannu at y llwyddiant yma. 

"Rydw i'n ddiolchgar iawn am y cymorth rydw i bellach yn ei dderbyn gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae gwybod bod cymorth mor arbennig ar gael i gyn-filwyr yn gysur mawr." 

Am ragor o wybodaeth am Valley Veterans, e-bostiwch y grŵp (enquiries@valleyveterans.org) neu ffonio 07733 896 128.

Wedi ei bostio ar 18/05/2023