Skip to main content

Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae'n wych gweld cynifer o grwpiau cymunedol a sefydliadau yn gwneud cais am gyllid grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU unwaith eto. 

 Yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion ar ôl i'r cyfnod wneud cais ddod i ben ddydd Gwener diwethaf (12 Mai), gallaf gadarnhau bod nifer sylweddol o geisiadau – cyfanswm o 157 – wedi'u derbyn (lefelau Isel, Canolig ac Uwch). 

 Cyfanswm y ceisiadau yma, gan gynnwys unrhyw arian cyfatebol, yw tua £12 miliwn. 

 Yn anffodus, mae cyfanswm cost y ceisiadau sylweddol yn uwch na'r cyllid sydd gan y Cyngor i wario dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, sy'n golygu fydd nifer o geisiadau ddim yn llwyddiannus. 

 Does dim dwywaith bod y broses gwneud cais yn gystadleuol iawn, felly mae'r Swyddogion wrthi'n asesu pob cais yn erbyn meini prawf a mesurau sgorio. Bydd y ceisiadau sydd wedi bodloni nodau ac amcanion y cyllid yn cael eu cyflwyno o flaen y panel ar gyfer ystyriaeth bellach cyn dod i benderfyniad.''

 

Wedi ei bostio ar 16/05/23