Efallai bydd trigolion yn sylwi ar waith atgyweirio wal afon mewn sawl lleoliad ar hyd Afon Rhondda ger Parc Gelli.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd i gwblhau'r gwaith. Bydd gwaith paratoi'r safle yn dechrau ddydd Llun, 15 Mai.
Bydd y cynllun yn cael ei gynnal ar ran o'r wal sy'n 250 metr o hyd, ac yn cynnwys ailadeiladu rhan sydd wedi cwympo'n rhannol.
Bydd y gwaith yn cynnwys atgyweirio'r argloddiau, ailbwyntio gwaith maen, atgyweirio craciau, ailosod gwaith maen sydd ar goll neu sydd wedi dod yn rhydd a thrin rhywogaethau ymledol.
Bydd y contractwr yn mynd at y wal drwy Barc Gelli, gan ddefnyddio gatiau'r fynedfa oddi ar Stryd Lloyd (i gyfeiriad y dwyrain o'r parc).
Bydd y mwyafrif o'r gwaith yn cael ei gynnal heb darfu llawer. Fodd bynnag, efallai bydd y contractwr angen rhoi trefniadau rheoli traffig a mynediad i gerddwyr ar waith er mwyn mynd i mewn i'r parc.
Bydd hyn yn berthnasol i Stryd Lloyd, Stryd Smith a/neu Drem y Parc. Dydyn ni ddim yn rhagweld bydd angen cau unrhyw ffyrdd.
Bydd y cynllun yn para oddeutu 10 wythnos - diolch ymlaen llaw i drigolion ac ymwelwyr y parc am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 11/05/2023