Skip to main content

Ysgol Rithwir i Blant sy'n Derbyn Gofal

RCT-Logo-RGB-web

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio 'ysgol rithwir' ar-lein. Bydd y gwasanaeth newydd allweddol yma'n cefnogi ysgolion lleol i ddarparu addysg i blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal. 

Bydd y cyfleuster cymorth ar-lein newydd yma'n gweithio ar lefel uwch, strategol ac yn rheoli a chydweithio â rhanddeiliaid perthnasol i wella deilliannau i blant sy'n derbyn gofal ledled y Fwrdeistref Sirol. 

'Mae pob plentyn yn haeddu Pencampwr' yw datganiad cenhadaeth y gwasanaeth ac mae'n gweithredu o dan weledigaeth a chyfres o werthoedd moesol wedi’u llunio ar y cyd, a'r rheiny sy’n sail i waith yr Ysgol Rithwir.

 Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: "Rwy'n falch iawn bod bellach gennym ni system gymorth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, a'i datganiad cenhadaeth yw 'mae pob plentyn yn haeddu pencampwr'. 

"Mae arnom ni ddyletswydd o ofal i bob disgybl ac mae'r cyfleuster ar-lein newydd yma'n darparu rhagor o gymorth i'n haelodau o staff sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn ein hysgolion." 

Mae carfan yr Ysgol Rithwir yn cefnogi aelodau staff penodedig sy'n rhoi cymorth i blant sy'n derbyn gofal mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Caiff sesiynau hyfforddi, fforymau a sesiynau galw heibio eu trefnu drwy gydol y flwyddyn academaidd er mwyn i staff ysgolion ddeall yr anawsterau mae plant a phobl ifainc yn eu hwynebu a sut i'w cefnogi. 

Mae carfan yr Ysgol Rithiwr yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid ac mae'n sefydlu Pwyllgor Rheoli Aml-asiantaeth ar hyn o bryd. Bydd y pwyllgor yn gweithredu'n 'ffrind beirniadol' i'r ysgol rithwir ac yn darparu haen ychwanegol o graffu. 

Er mwyn cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,  bydd y Cyngor yn cefnogi plant i fyw gyda'u teuluoedd eu hunain os yw'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny, a gweithio gyda theuluoedd i oresgyn yr anawsterau maen nhw'n eu profi. Drwy hyn, bydd eu plant yn gallu dychwelyd adref pryd bynnag mae hyn yn bosibl. Serch hynny, os nad yw'n ddiogel neu'n bosibl i blentyn aros yn y cartref teuluol, bydd y Gwasanaethau i Blant yn trefnu iddyn nhw gael ei roi yng ngofal yr Awdurdod Lleol.  

I ddysgu rhagor am Ysgol Rithwir RhCT, anfonwch e-bost i: ysgolrithwir@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 30/05/2023