Mae pawb yn barod i wynebu'r frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ledled Rhondda Cynon Taf!
Mae'r pencampwr bocsio proffesiynol lleol heb ei drechu Rhys Edwards wedi ymuno â Chyngor Rhondda Cynon Taf yn ei ymgyrch ddiweddaraf i helpu i gynyddu nifer yr aelwydydd sy'n ailgylchu gwastraff bwyd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Rhys, sy'n bencampwr bocsio lleol a chenedlaethol yn dod o Ben-y-graig, Tonypandy yn effro iawn i bwysigrwydd bwyta'n iach er mwyn cynnal ei gorff gorau posibl – mae hyn yn aml yn cynnwys prydau sy'n uchel mewn protein a ffrwythau ffres. Mae hyn yn golygu plisg wŷ, crwyn banana, creiddiau afal a rhagor! Mae modd i'r gweddillion bwytadwy yma ein grymuso ni wrth i ni frwydro yn erbyn gwastraff bwyd gan ein helpu ni i fwrw targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2024/25.
"Mae modd i DDAU groen banana bŵeru TRI ffôn clyfar"
Tynnodd dadansoddiad diweddar o fagiau du ymyl y ffordd gan WRAP* o Rondda Cynon Taf sylw at y ffaith bod ein gwastraff bagiau du yn y sir yn cynnwys 39% o eitemau gwastraff bwyd a allai fod wedi cael eu hailgylchu! Mae hyn yn llawer uwch na ffigwr "Cymru gyfan", sydd yn 25%!
Roedd Rhys yn barod i wynebu'r frwydr yn erbyn gwastraff a datganodd y pencampwr bocsio proffesiynol pwysau ysgafn sydd heb ei drechu mai dyma'r frwydr fwyaf yn ei yrfa hyd yn hyn!
"Bag Gwastraff Du – bydd yn barod! Ewch amdani!"
Cymerodd Rhys ran mewn cyfres o fideos digrif, sydd am gael eu dangos ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr wythnosau nesaf ac ar sgrin fawr Showcase Cinema yn Nantgarw. Bydd yn tynu sylw at pam rydyn ni oll angen ymuno â Rhys yn y FRWYDR yma sydd am gael effaith ar bawb!
Dywedodd Rhys Edwards, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Rhys Lightening: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi gofyn i mi arwain y frwydr yn erbyn gwastraff a newid yn yr hinsawdd yn fy milltir sgwâr! Mae ein cwm yn un o'r rhai harddaf yn y byd ac mae'n rhaid iddo barhau yn yr un modd. Os ydyn ni oll yn gweithredu nawr, mae modd i ni wneud gwahaniaeth yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae'n dibynnu ar y pethau bychain rydyn ni'n eu gwneud fel sicrhau bod crwyn banana yn cael eu rhoi yn y cadi gwastraff bwyd yn hytrach na'r bag gwastraff du neu gerdded i'r siop leol i brynu eich wyau.
"A minnau o'r ardal leol, mae'r ardal yma o bwys mawr i mi ac rwy'n erfyn ar bawb i wynebu'r frwydr yma – efallai dyma fydd y frwydr fwyaf pwysig byddwn ni'n ei hwynebu am y bydd yn cael effaith ar bawb!"
Rydyn ni'n cymryd camau yn Rhondda Cynon Taf er mwyn ailgylchu ac rydyn ni'n BAROD i wynebu'r FRWYDR er mwyn lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd. Ym mis Gorffennaf eleni, newidiodd y Cyngor ei gasgliadau bagiau du a biniau ar olwynion i rai bob tair wythnos er mwyn ceisio cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau allyriadau carbon! Hyd yn hyn, mae cyfraddau ailgylchu cynnar gwastraff bwyd a deunyddiau sych yn awgrymu bod y cyfraddau'n cynyddu a bod gwastraff bagiau du ar y cyfan yn lleihau – sy'n golygu bod ein trigolion ni'n mynd i'r afael â her 'CYNYDDU ein Cyfraddau Ailgylchu' er mwyn i ni 'Fwrw'r TARGED!' Os ydyn ni oll y parhau â'n hymdrechion, bydd Rhondda Cynon Taf ar y trywydd cywir yn ei frwydr yn erbyn gwastraff!
Cyflwynodd y Cyngor sachau gwyrdd cynaliadwy y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd ym mis Tachwedd 2021 ac mae hyn wedi helpu'r Cyngor i leihau ei ddefnydd o blastig o dair miliwn o fagiau clir bob blwyddyn. Mae'r newidiadau yma i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd a'r newidiadau i wasanaeth trefnu Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Wel, rwy'n credu bod Rhys wedi dweud y cwbl – rydyn ni'n barod i wynebu'r FRWYDR! Rydyn ni oll angen cynyddu ein hymdrechion ac ymuno â'r frwydr yn erbyn gwastraff bwyd a newid yn yr hinsawdd, drwy leihau beth rydyn ni'n ei ddefnyddio yn ogystal ag ailddefnyddio popeth y mae modd i ni ei wneud a phan nad oes modd gwneud hynny, RHAID i ni ailgylchu! Dyw Rhys ddim wedi cael ei drechu mewn gornest eto ac mae'r Fwrdeistref Sirol yn falch iawn ohono – dewch i ymuno ag ef gan sicrhau bod ein Bwrdeistref Sirol yn dod yn bencampwr ailgylchu! Hyd yn hyn, mae trigolion Rhondda Cynon Taf wedi bod yn mynd ati a hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion ailgylchu ARBENNIG, maen nhw wedi bod yn wych. Os ydyn ni'n parhau a'n HYMDRECHION yn yr un modd, byddwn ni'n CHWALU targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ymhell cyn 2024/25 – da iawn Rhondda Cynon Taf!
“Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb – gyda system bagiau clir hawdd ar gyfer eitemau sych. Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned o fewn ychydig o filltiroedd o bob preswylydd ac maen nhw ar agor bob diwrnod o'r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc.
“Rhaid i ni barhau i fod yn falch o'n hymdrechion ailgylchu ni, ond mae cymaint yn rhagor mae modd i ni ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a hoffen nhw wneud Cymru a Rhondda Cynon Taf yn llefydd glanach a gwyrddach. Gyda'n gilydd mae modd i ni sicrhau bod Cymru'n cipio'r fedal aur am ailgylchu a'n bod ni'n amddiffyn ein planed gan ailgylchu'r pethau cywir a lleihau halogiad, bob tro.”
Dilynwch @CyngorRhCT ar Facebook a Twitter.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu, ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 16/11/23