Skip to main content

Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan a Nofio Dydd Calan: Lido Ponty

Lido BDS

Ar ôl blwyddyn o sesiynau nofio ben bore ym mhob tywydd, hwyl gyda'r teulu yn yr haf a’n sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd, mae Lido Ponty yn dod â thymor 2023 i ben gyda Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan.

Bydd tocynnau'r achlysur, sy'n cynnig sesiwn nofio Nadoligaidd yn y pyllau twym, yn mynd ar werth am 9am ddydd Llun 4 Rhagfyr. Peidiwch ag anghofio eich het Siôn Corn!

Yn dilyn y sesiynau nofio mewn dŵr oer lle cafodd tymheredd y dŵr ei ostwng i 15 gradd, bydd ein nofwyr rheolaidd yn falch o gael gwybod bydd tymheredd y pyllau'n cynyddu i 28 gradd ar gyfer sesiynau Gŵyl San Steffan.

Beth am ddechrau 2023 gyda sesiwn nofio yn Lido Ponty? Mae sesiynau nofio Dydd Calan hefyd wedi'u cadarnhau! Bydd tocynnau'r sesiynau yma'n mynd ar werth am 9am ddydd Llun 11 Rhagfyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan yw achlysuron olaf Lido Ponty cyn cau am y tymor ac yna ailagor adeg y Pasg – ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn barod!

“Daeth dros 117,000 o bobl i Lido Ponty yn 2023 ac rydyn ni wedi mwynhau croesawu pawb i'n hatyniad hardd – boed law neu hindda!

“Cafodd y sesiynau nofio mewn dŵr oer eu cyflwyno fel prawf y llynedd, ac maen nhw wedi mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi bod yn wych gweld pobl yn teithio o bob cwr o dde Cymru i nofio yn y dŵr oer – boed hynny er mwyn hyfforddi, i gael hwyl, neu i baratoi ar gyfer nofio gwyllt!

“Gŵyl San Steffan a Dydd Calan yw sesiynau olaf Lido Ponty am sbel felly sicrhewch eich bod chi'n prynu tocynnau pan fyddan nhw'n mynd ar werth.”

Mae tocynnau Gŵyl San Steffan yn mynd ar werth am 9am ddydd Llun 4 Rhagfyr. Pris y tocynnau yw £7, ac mae hynny’n cynnwys siocled poeth ar ddiwedd eich sesiwn. Gall plant o dan 5 oed nofio am ddim. Dewch â'ch hetiau Nadolig – hoffen ni rannu lluniau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Bydd pum sesiwn ar gael yn y ddau achlysur:

8:00am – 9:00am

9.15am – 10.15am

10.30am – 11.30am

11.45am – 12.45pm

1:00pm – 2:00pm

Mae tocynnau Dydd Calan yn mynd ar werth am 9am ddydd Llun 11 Rhagfyr. Pris y tocynnau yw £7 a gall plant o dan 5 oed nofio am ddim.

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 27/11/23