Skip to main content

Diwrnod Hawliau Cynhalwyr 2023: Cydnabod Cynhalwyr ein Cymuned a bod yn gefn iddyn nhw

CarersSupportProject

Mae modd i ddyletswyddau gofalu fod yn heriol, ond mae cael mynediad at yr wybodaeth gywir ar yr amser cywir yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. I nodi’r Diwrnod Hawliau Cynhalwyr yma, byddwn ni'n cynnal achlysur i'ch helpu chi i gael yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnoch chi!

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi Diwrnod Hawliau Cynhalwyr ddydd Iau 23 Tachwedd eleni. Mae'r diwrnod pwysig yma'n helpu cynhalwyr ledled y DU i ddysgu rhagor am eu hawliau ac yn ceisio hyrwyddo gwybodaeth i gynhalwyr am sut a lle i fynd i dderbyn y cymorth maen nhw ei angen.

Bydd y Cyngor yn cynnal achlysur er mwyn nodi'r achlysur ddydd Iau 23 Tachwedd, rhwng 10am a 3pm, yn YMa, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TS (hen adeilad YMCA) Rydyn ni'n annog i bob cynhaliwr lleol i fynychu.

Thema eleni yw 'Cydnabod a Chynorthwyo Cynhalwyr yn y Gymuned', ac mae'n ymwneud â sicrhau bod cynhalwyr sy'n aelodau o'r teulu, ac nad ydyn nhw'n cael eu talu, yn cael eu cydnabod ac yn cael cymorth â phob agwedd ar fywyd.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  "Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod bod gyda ni nifer o gynhalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu'n byw ledled y Fwrdeistref Sirol, gyda nifer ohonyn nhw ddim yn effro i'r mathau o help a chymorth y mae modd iddyn nhw gael mynediad ato.

"Mae Cynhalwyr yn aml iawn yn cyflawni eu dyletswyddau gofal ar y cyd ag ymrwymiadau eraill, mae modd iddo fod yn anodd iddyn nhw gydbwyso hyn gyda'u gwaith. Mae Diwrnod Hawliau Cynhalwyr yn ceisio lliniaru peth o'r pwysau yma drwy gyfeirio cynhalwyr at yr wybodaeth berthnasol a darparu cymorth ychwanegol iddyn nhw.

Rwy'n galw ar bob cynhaliwr lleol, y rhai sy'n cael eu talu a'r rhai nad ydyn nhw'n cael eu talu, i ymuno â ni yn ein hachlysur ar 23 Tachwedd. Dyma gyfle i'r Cyngor ddangos ein gwerthfawrogiad am y gwaith mae cynhalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu'n ei wneud ym mhob rhan o'n cymuned gan sicrhau fod modd iddyn nhw gael mynediad at gyngor a chymorth."

Bydd nifer o sefydliadau, yn mynychu achlysur y Cyngor er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor gan gynnwys y rheiny o'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Iechyd, Grwpiau Cymorth Lleol a llawer yn rhagor. Does dim ots beth yw eich sefyllfa bersonol, neu anghenion unigryw'r unigolyn rydych chi'n gofalu amdanyn nhw, bydd rhywbeth yna ar gyfer pawb. Dyma rai o'r sefydliadau a fydd yn bresennol:

  • Gofalwyr Cymru (Carers Wales)
  • Cyflogwyr i Gynhalwyr Gofalwyr Cymru
  • Age Connects Morgannwg
  • Gwasanaeth Gofal a Thrwsio Cwm Taf
  • Snap Cymru
  • Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
  • Parkinson's UK
  • Canolfan Byw Annibynnol 'Dewis'
  • Cyngor ar Bopeth

Bydd sawl gweithdy ar gael yn yr achlysur, gan ganolbwyntio ar hwyl, iechyd a lles, materion ariannol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae ein hamserlen wedi'i nodi isod:

  • 10.30am - Materion Ariannol
  • 11.30am - Cynllunio ar gyfer y dyfodol
  • 12.30pm - Côr
  • 1pm - Cynhalwyr sy'n Gweithio
  • 2pm - Tai Chi
  • 2.30pm - Dawnsio Llinell

Er mwyn dysgu rhagor ac i gadw eich lle, ffoniwch Gynllun Cynnal y Cynhalwyr ar 01443 281463.

Yn aml gall gofalu am rywun gael niwed arnoch chi'n emosiynol, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly mae'n bwysig eich bod chi'n manteisio ar gyfleoedd i ofalu amdanoch chi eich hun hefyd.

Os ydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf, efallai byddwch chi eisiau cofrestru â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf. Mae'r cynllun yn cynnig cyfleoedd i chi gwrdd â chynhalwyr eraill sy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei brofi, hyfforddiant ymarferol, gwybodaeth a chyngor, gweithdai lles, yn ogystal â gweithgareddau hamdden, gwasanaeth cwnsela a llawer yn rhagor.

Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf  drwy e-bostio CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 281463.

Wedi ei bostio ar 14/11/23