Mae’r rhan fwyaf o yrwyr yn stopio’n ddiogel pan welan nhw Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn codi eu harwydd ‘STOP’, sy’n golygu eu bod ar fin camu i mewn i'r ffordd i helpu disgyblion i groesi’n ddiogel.
Serch hynny, rydyn ni wedi cael gwybod am sawl digwyddiad ‘methu â stopio’ yn ddiweddar lle mae ein swyddogion, a’r teuluoedd y maen nhw'n eu helpu, wedi cael eu rhoi mewn mwy o berygl.
Y lleoliadau mwyaf cyffredin ar gyfer digwyddiadau o’r fath yw Heol Gilfach ger Ysgol Gymuned Tonyrefail, ac ar hyd Broadway Trefforest ger Ysgol Gynradd Parc Lewis.
Mae ein Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein cymunedau, trwy helpu plant ifainc a theuluoedd i gadw'n ddiogel wrth gerdded i'r ysgol ac adref bob dydd.
Cyn gynted ag y bydd yr arwydd yn cael ei godi gan swyddogion, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi camu i'r ffordd, mae'r gyfraith yn nodi bod rhaid i yrwyr fod yn barod i stopio.
Rydyn ni wedi cael cymorth gan Wardeiniaid Cymunedol y Cyngor a Heddlu De Cymru i fonitro'r ddau leoliad a enwir uchod. Mae Swyddogion Gorfodi’r Cyngor hefyd wedi mynd i’r safle yn Nhonyrefail i fynd i'r afael ag achosion o barcio’n anghyfreithlon.
Hoffen ni atgoffa gyrwyr bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch chi i ufuddhau i’r arwydd ‘STOP’ a bod yn barod i stopio.
Pan fydd yr Hebryngwr Croesfan Ysgol wedi camu i mewn i'r ffordd gan arddangos yr arwydd, RHAID i yrwyr stopio – hyd nes bod pawb wedi gorffen croesi'r ffordd.
Helpwch i gadw'ch cymuned yn ddiogel drwy gadw at y rheolau yma. Diolch
Wedi ei bostio ar 30/11/23