Yn dilyn y cynnydd ardderchog a gafodd ei wneud yn rhan o gynllun gosod pont newydd Heol y Maendy, Ton Pentre, mae'r gwaith bellach wedi'i gwblhau ac roedd y ffordd wedi ailagor y prynhawn yma (dydd Gwener, 10 Tachwedd).
Cafodd y llun uchod ei dynnu ar fore Gwener (10 Tachwedd), cyn ailagor y ffordd am 3pm.
Mae'r gwaith i osod y strwythur newydd ar y B4224, ger yr orsaf heddlu ac i'r de o gyffordd Y Rhodfa, wedi'i gwblhau tua chwe wythnos yn gynt na'r disgwyl.
Cafodd wyneb newydd ei osod ar y ffordd yn ddiweddar, a hynny'n dilyn gwaith i osod canllawiau'r bont.
Mae contractwr y Cyngor wedi cwblhau'r gwaith ac wedi gadael y safle.
Yn ein diweddariad diwethaf, nodwyd y bydd gwaith sy'n cael ei gynnal gan Wales & West Utilities yn parhau ar ôl i gynllun gosod pont newydd y Cyngor ddod i ben. Mae hyn yn golygu y bydd angen mesurau rheoli traffig i'r gogledd o'r bont ar Gilgant y Maendy, a hynny i gwblhau gwaith hanfodol i ddiogelu'r prif gyflenwad nwy.
Hoffen ni ddiolch i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod y cynllun yma.
Mae'r gwaith yma’n diogelu pont Heol y Maendy ar gyfer y dyfodol a bydd modd osgoi cau'r bont am gyfnod hirach yn y dyfodol.
Wedi ei bostio ar 10/11/23