Mae aelodau'r Cabinet wedi cytuno i symud ymlaen â chynigion i greu ysgol arbennig newydd yn Rhondda Cynon Taf erbyn 2026 ar ôl ystyried yr adborth a gasglwyd mewn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.
Mewn cyfarfod ddydd Llun, 23 Hydref, trafododd y Cabinet adroddiad trylwyr yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 4 Gorffennaf a 15 Medi eleni. Bydd Hysbysiadau Statudol perthnasol yn cael eu cyhoeddi yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddydd Llun, sef agor ysgol arbennig 3-19 oed a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer ysgolion arbennig yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r Cyngor wedi penderfynu parhau â'r cynlluniau er mwyn ymateb i'r pwysau cynyddol sydd ar ysgolion arbennig o ran capasiti, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae adroddiadau blaenorol i'r Cabinet wedi amlygu'r duedd barhaus o ran niferoedd disgyblion, a’r modd y mae anghenion pobl ifainc yn dod yn fwy cymhleth. Rydyn ni wedi ystyried pob opsiwn i ehangu darpariaethau ysgolion arbennig presennol.
Roedd manylion allweddol am yr ymgynghoriad wedi'u nodi yn yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun yn dilyn y trefniadau sydd wedi'u hamlinellu yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r ymatebion.
Cynhaliwyd cyfarfodydd ar-lein i aelodau'r Corff Llywodraethu a staff yr ysgolion, yn ogystal â chyfarfodydd i gynghorau'r ysgolion cyfatebol. Cafodd fersiynau hawdd i'w darllen i blant a phobl ifainc o ddeunyddiau'r ymgynghoriad a'r arolwg eu darparu yn y cyfarfodydd yma. Trafododd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant y cynigion yn ei gyfarfod ar 15 Medi cyn cyhoeddi ymateb ffurfiol.
Roedd modd i breswylwyr gymryd rhan trwy fwrw golwg ar adnoddau'r ymgynghoriad a'r arolwg ar wefan y Cyngor. Cynhaliwyd achlysur wyneb yn wyneb yn Y Pafiliynau, Cwm Clydach ar 22 Awst, sef y safle arfaethedig ar gyfer yr ysgol.
Mae adroddiad yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys ymateb Estyn a sylwadau'r Cyngor. Nododd adroddiad y Cyngor fod yr ymateb i’r ymgynghoriad yn un cadarnhaol. Mae modd gweld y ddogfen lawn ar wefan y Cyngor yn atodiad i adroddiad y Cabinet o ddydd Llun.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Yn ddiweddar, mae'r Cabinet wedi bod wrthi’n trafod y pwysau sylweddol sydd ar ein hysgolion arbennig. Mae rhagor o ddisgyblion ac mae eu hanghenion yn dod yn fwyfwy cymhleth. Gan fod disgwyl i'r galw am addysg arbennig barhau i dyfu, mae swyddogion wedi cynnal proses drylwyr er mwyn penderfynu sut i fynd i’r afael â hynny.
"Yr opsiwn a ffefrir yw buddsoddi mewn ysgol newydd er mwyn parhau i gyflawni ein dyletswydd statudol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, sicrhau bod gan ddisgyblion le mewn ysgolion sy'n agos at eu cartrefi a lliniaru cost lleoliadau annibynnol y tu hwnt i'r Fwrdeistref. O ganlyniad i hyn, ym mis Mehefin 2023, cytunodd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad perthnasol.
"Ystyriodd y Cabinet holl adborth yr ymgynghoriad ac roedd ymateb cyffredin cadarnhaol i'w weld yn glir. Mae modd i'r Cyngor ymateb i bob pryder a godwyd yn ymateb Estyn a'r cyhoedd. Roedd rhai trigolion a gymerodd rhan yn yr ymgynghoriad wedi holi a yw'r cynlluniau'n cynnwys cau unrhyw un o'n hysgolion presennol, mae'n bwysig nodi nad yw hyn yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer yr ysgol arbennig newydd sydd wedi'i chynnig. Cyfeiriwyd hefyd at gynnydd yn y pellter teithio i deuluoedd i’r ysgol ac mae swyddogion wedi cadarnhau y byddai'r rhan fwyaf o amseroedd teithio yn lleihau yn rhan o'r cynnig yma.
"Bydd trefniadau cludiant presennol rhwng yr ysgol a gartref yn parhau ar gyfer disgyblion sy'n byw mewn ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan y cynlluniau trwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol neu hyd nes nad oes eu hangen rhagor. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ystyriaeth yn cael ei roi i gludo brodyr/chwiorydd i'r un ysgol.
"Mae'r prosiect ei hun yn gyffrous iawn. Yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yw i’r ysgol fod yng Nghwm Clydach. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid enfawr trwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, ac mae gyda ni hanes blaenorol o ddarparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf i'n bobl ifainc drwy'r rhaglen yma. Bydd yr ysgol arbennig newydd yn cynnwys mynediad gwell i gyfleusterau, offer ac adnoddau arbenigol.
"Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddydd Llun, bydd swyddogion yn parhau â'r gwaith ac yn cyhoeddi Hysbysiadau Statudol. Bydd y Cyngor yn rhannu'r newyddion diweddaraf â thrigolion wrth i ni gyflawni rhannau allweddol o'r prosiect erbyn 2026."
Bydd yr ysgol newydd yn sicrhau bod modd i'r Cyngor gyflawni ei rwymedigaethau yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Bydd y Cyngor yn derbyn cyfraniad o 75% tuag at gyfanswm costau'r prosiect o fewn Band B o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Mae lleoliad yr ysgol newydd wedi’i ystyried yn drylwyr drwy broses arfarnu safle, a’r opsiwn a ffefrir yw safle'r Pafiliynau yng Nghwm Clydach. Dyma'r safle mwyaf addas ac mae'n bodloni'r holl feini prawf. Mae'n lleoliad digonol o ran maint, mae mynediad boddhaol i'r lleoliad ac mae'n gyfle datblygu dichonadwy.
Wedi ei bostio ar 01/11/23