Mae'n bosibl y bydd ymwelwyr â Chanol Tref Pontypridd yn sylwi ar waith ar hen safle’r Neuadd Fingo'r wythnos nesaf, ar ôl i'r Cyngor benodi contractwr i wneud gwaith paratoadol cychwynnol cyn ei ailddatblygu'n llawn yn y Flwyddyn Newydd.
Bydd Prichard’s Contracting yn cynnal gwaith tir paratoadol o ddydd Llun, 6 Tachwedd, yn dilyn dymchweliad blaenorol yr hen adeiladau’r Neuadd Fingo a Chlwb Nos Angharad’s. Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd y Cyngor y byddai'r ardal yn cael ei hailddatblygu i fod yn fan agored bywiog a deniadol, a oedd yn un o'r syniadau a gafodd gefnogaeth dda ar gyfer y safle mewn ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol.
Bydd elfen fach o’r safle, wrth ymyl yr A4058 Heol Sardis, yn cael ei throi’n safle bysiau newydd gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, a hynny er mwyn integreiddio gwasanaethau bysiau a threnau’n well yn rhan o Fetro De Cymru. Bydd y baeau a’r cyfleusterau aros newydd yn galluogi bysiau tua’r de i wasanaethu pen gwaelod y dref, a byddan nhw'n cael eu defnyddio cyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 ym Mhontypridd.
Bydd gweithgarwch o ddydd Llun (6 Tachwedd) yn cynnwys gwrthgloddiau a gwaith galluogi ar gyfer seilwaith cyfleustodau a draenio, i'w gwblhau erbyn y Nadolig. Bydd yn cael ei gynnal ar y safle ar ochr ganol y dref, gan sicrhau y bydd cyn lleied o darfu ar fusnesau ac ymwelwyr. Serch hynny, bydd y Stryd Fawr ar gau i draffig am o leiaf dau ddydd Sul ym mis Tachwedd i gynnal prawf ar dyllau ar gyfleustodau presennol. Bydd y Cyngor yn rhannu manylion am y gwaith yma maes o law.
Am gyfnod y gwaith paratoadol (o 6 Tachwedd), bydd angen cau lôn sengl yn Heol Sardis – gan leihau traffig tua'r de i un lôn. Mae hefyd angen cau troedffordd ar Heol Sardis ar hyd y safle, ond bydd y mynediad presennol i gerddwyr i mewn i ganol y dref yn cael ei gynnal fel yr arfer.
Ar ôl i'r gwaith paratoi gael ei wneud, bydd y safle yn cau ar gyfer cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, cyn i'r prif gynllun ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae'r Cyngor wedi dechrau proses dendro i benodi contractwr ar gyfer y gweithiau hynny.
Datblygu cynllun mannau cyhoeddus o safon ar gyfer y safle
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda charfan amlddisgyblaethol arbenigol i ddatblygu'r cynigion, ac mae'r broses yma'n parhau i fynd rhagddi. Bydd y gofod yn darparu man agored cyhoeddus o safon, a bydd yn sicrhau y bydd golygfeydd newydd i’r stryd fawr, a gafodd eu hamlygu pan ddymchwelwyd adeiladau’r neuadd bingo, yn cael eu cadw. Bydd hefyd yn cyflwyno gwyrddlesni a phlannu i'r treflun.
Bydd y safle’n darparu llwybr diogel a hygyrch i gerddwyr o Heol Sardis i ganol y dref. Mae mewn lleoliad da ar gyfer y rheiny sy'n defnyddio'r cyrraedd Pontypridd ar drenau a defnyddwyr bysiau sy’n manteisio ar y baeau newydd sy’n cael eu sefydlu yn Heol Sardis. Bydd ardal eistedd bwrpasol hefyd yn cael ei darparu ar gyfer defnyddwyr bysiau a threnau.
Bydd yr ardal yn fan cyrraedd clir ym mhen deheuol canol y dref, gydag arwyddion clir i ganfod y ffordd o amgylch y dref a gwybodaeth i ymwelwyr. Bydd man gwerthu bwyd/diod ar raddfa fach hefyd ar waith yno, gydag ardal eistedd bwrpasol.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Bydd y gwaith cychwynnol yn safle Neuadd Fingo Pontypridd, hyd at y Nadolig, yn paratoi'r ardal ar gyfer yr ailddatblygiad – sydd wedi'i gynllunio ar gyfer yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Dyma gyfnod cyffrous i ganol y dref wrth inni ddod â safle strategol mawr yn ôl i ddefnydd ar ôl blynyddoedd lawer o fod yn adfail – gan adfywio’r safle i fod yn lle cyhoeddus o safon gyda man gwerthu bwyd bach, a baeau bysiau newydd i wasanaethu pen deheuol y dref.
“Y llynedd ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion ynghylch y ffordd orau o ailddatblygu’r safle yn rhan o drafodaeth ehangach am Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd. Man agored o safon oedd un o’r cynigion a gafodd y gefnogaeth orau, gyda manteision yn cynnwys mynediad gwell i ben deheuol y dref, a chadw’r golau naturiol a’r golygfeydd a gafodd eu datgelu ar ôl dymchwel y safle.
“Cafodd Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd ei gymeradwyo'r llynedd i barhau â’n buddsoddiad adfywio, yn dilyn cynnydd rhagorol Fframwaith Adfywio Pontypridd o 2017 i 2022 – pan gyflawnwyd Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf, a gwnaed cynnydd pwysig yn YMCA Pontypridd, Canolfan Gelfyddydau'r Miwni a Pharc Ynysangharad. Mae'r Cynllun yn nodi uchelgeisiau craidd, gan gynnwys cynllun 'Porth y De' sy'n defnyddio safleoedd datblygu strategol.
“Mae hen safle’r Neuadd Fingo wedi’i ddatblygu i ategu cynlluniau ‘plaza glan-yr-afon’ ar gyfer hen safle M&S a Dorothy Perkins, a gafodd ei ddymchwel yn ddiweddar. Mae tirnodau allweddol eraill a glustnodwyd ar gyfer datblygiad yn cynnwys cwrt blaen yr orsaf reilffordd, a’r groesfan i gerddwyr dros yr A4058 – tra bod man achlysuron gwyrdd newydd yn un elfen yn unig o’r buddsoddiad sy’n cael ei ddarparu ym Mharc Ynysangharad.
“Bydd y gwaith o 6 Tachwedd yn cael ei gynnal i raddau helaeth o fewn ffin safle presennol adeiladau’r hen Neuadd Fingo – felly mae disgwyl mai prin fydd y tarfu cyffredinol ar Ganol y Dref. Mae angen cau lôn a throedffordd ar Heol Sardis am gyfnod y gwaith, tra bydd cau ffyrdd ar y Stryd Fawr yn cael eu hamserlennu ar ddydd Sul er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Diolch ymlaen llaw i breswylwyr, defnyddwyr y ffordd a busnesau lleol am eich cydweithrediad dros yr wythnosau nesaf."
Cyn hir bydd Prichard's Contracting yn rhannu cylchlythyr am y gwaith i fusnesau yng nghanol y dref, a bydd yn cael ei lanlwytho i wefan Dewch i Siarad...Porth y De Rhondda Cynon Taf. Bydd rhagor o wybodaeth hefyd yn cael ei hychwanegu i'r byrddau gwybodaeth yn hen siop y British Heart Foundation ar Stryd y Taf.
Wedi ei bostio ar 03/11/2023