Skip to main content

Diwrnod ym mywyd Gyrrwr Lori Ailgylchu

Ydych chi erioed wedi meddwl am y person sy'n casglu eich sbwriel a'ch deunydd ailgylchu a beth mae'n ei wneud yn rhan o'i swydd bob dydd? 

Yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni, rydyn ni'n edrych ar y bobl go iawn sy'n darparu'r gwasanaeth i gartrefi ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Gweithiwr/Gyrrwr Ailgylchu Gofal y Strydoedd, Steven Blake, yn dangos ei swydd i drigolion a sut mae modd inni helpu i wella cyfraddau ailgylchu. 

Dechreuodd Steven, o Gwm Rhondda, weithio i’r Cyngor dros 16 mlynedd yn ôl. Yn wreiddiol roedd wedi’i leoli yn Nhŷ Amgen fel gyrrwr/llwythwr HGV gyda chyfrifoldeb am gasglu eitemau o’r canolfannau ailgylchu yn y gymuned, ac yn ddiweddarach dechreuodd weithio yn ei swydd bresennol fel Gyrrwr Ailgylchu. Mae'r ddwy swydd wedi galluogi Steven i weld y ddwy ochr o waith ailgylchu, o'i ddidoli a'i gasglu yn y canolfannau i'w gasglu wrth ymyl y ffordd. 

Mae diwrnod Steven yn dechrau am 5.30am ac yntau'n cychwyn er mwyn cyrraedd y depo erbyn 6.50am. Wrth gyrraedd y depo, bydd yn mynd yn syth at ei locer i nôl ei allweddi, cyn archwilio'r lori ailgylchu yn unol â'r drefn ddyddiol, gan archwilio a gwirio'r olew, y teiars, a.y.b. 

Yn fuan wedyn, bydd Steven a'i garfan yn mynd allan i daclo'r casgliadau ar eu cylchdaith ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Mae’r garfan yn teithio ledled y Fwrdeistref Sirol bob dydd i gasglu’r holl eitemau ailgylchadwy. Mae'r rhain yn cynnwys bwyd, cewynnau a gwastraff o’r ardd. 

Un o'r problemau mwyaf mae Steven yn ei hwynebu yw deunydd ailgylchu wedi'i halogi, sy'n golygu bod llawer o eitemau'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae Steven wedi darganfod pethau gwarthus mewn bagiau deunydd ailgylchu, gan gynnwys ysgarthion dynol a gwastraff bwyd wedi'i gymysgu yn y bagiau deunydd ailgylchu sych clir. Byddai'r holl eitemau hyn yn halogi'r deunyddiau ailgylchu, a byddai rhaid anfon cynnwys y bagiau i safleoedd tirlenwi.  

Problem fawr arall y mae Steven yn ei hwynebu bob dydd yw ceir sydd wedi'u parcio ar gyffyrdd neu sy’n rhwystro mynediad i’r strydoedd, gan achosi oedi wrth gasglu neu arwain at ddamwain. Nid cerbydau gwastraff yw'r unig rai sy'n cael trafferth, mae injans tân ac ambiwlansiau'n wynebu'r un broblem hefyd! 

Oeddech chi'n gwybod bod trigolion Rhondda Cynon Taf wedi ailgylchu dros 56,000 tunnell o ddeunydd rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023? Y newyddion drwg yw bod dros 3400 tunnell ychwanegol wedi gorfod cael ei daflu am ei fod wedi'i halogi! 

Am tua 11.30am bydd y garfan yn teithio i'r ganolfan i ddadlwytho'r deunydd ailgylchu er mwyn iddo gael ei ddidoli.

Ar ôl egwyl ginio gyflym bydd y garfan yn mynd yn ôl allan i barhau â'r gwaith casglu. Mae modd i'r gweithiwr ailgylchu arferol gerdded hyd at 40,000 o gamau (sef 16 milltir) bob dydd wrth gasglu deunydd gwastraff wrth ymyl y ffordd!      

Am 2.45pm bydd Steven a'r garfan yn mynd yn ôl i'r depo i orffen eu sifft.  

Mae Steven yn mwynhau ei swydd ac yn ddiolchgar bod carfan dda ganddo.  

"Rwy’n hoffi cwrdd â phobl a gwneud gwahaniaeth", meddai. Rwy'n ymfalchïo yn fy swydd ac rwy'n ffodus i weithio gyda phobl mor dda. Mae'n wych gan fod y rhan fwyaf o bobl wir yn gwerthfawrogi'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Yn ystod cyfnod Covid, roedd yr ymateb gan bobl yn anhygoel. 

"Rwy’n gwneud yn siŵr bod fy nheulu’n ailgylchu gan fy mod i'n gweld beth sy’n digwydd i’r eitemau pan nad ydych chi'n gwneud hynny. Un o'r pethau rwy'n ei gasáu fwyaf yw tipio'n anghyfreithlon! Pan rwy'n gweld matresi neu bren wedi'u gadael wrth ymyl y ffordd, mae’n fy ngwylltio gan fod modd mynd â’r rhain i ganolfan ailgylchu am ddim! 

"Mae'r amgylchedd yn bwysig i mi ac rwy'n gobeithio y bydd mwy a mwy o drigolion yn dechrau ailgylchu. Dyma rywbeth y mae rhaid i ni ei wneud er lles cenedlaethau'r dyfodol. Dyma'r swydd orau i mi ei chael hyd yn hyn; mae’r garfan mor gyfeillgar a byddwn i'n argymell y swydd yma i unrhyw un!"

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae’r carfanau’n gwneud gwaith gwych ledled y Fwrdeistref Sirol bob dydd ac, ynghyd ag ymdrechion enfawr trigolion Rhondda Cynon Taf, does ryfedd ein bod ni’n cymryd camau cadarnhaol i gyrraedd ein targedau ailgylchu. 

"Fodd bynnag, yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni, mae angen i ni i gyd dalu sylw i’r hyn rydyn ni'n ei roi yn ein bagiau ailgylchu clir. Mae modd i newidiadau syml, megis sicrhau bod eitemau wedi'u golchi cyn eu hailgylchu, leihau halogiad.

"Mae ailgylchu yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor a bydd yn chwarae rhan ganolog wrth helpu'r Cyngor i gyflawni ei darged o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. 

Rydyn ni'n cymryd camau MAWR er mwyn ailgylchu a lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd. Ym mis Gorffennaf eleni, cafodd casgliadau bagiau du a biniau ar olwynion eu newid i rai bob tair wythnos er mwyn ceisio cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau allyriadau carbon! Hyd yn hyn, mae cyfraddau ailgylchu cynnar gwastraff bwyd a deunyddiau sych yn awgrymu bod y cyfraddau'n cynyddu a bod gwastraff bagiau du ar y cyfan yn lleihau - sy'n golygu bod ein trigolion ni'n mynd i'r afael â her 'CYNYDDU ein Cyfraddau Ailgylchu' er mwyn i ni 'Fwrw'r TARGED!' Os ydyn ni i gyd yn parhau â'n hymdrechion GWYCH, bydd Rhondda Cynon Taf yn ailgylchwyr heb eu hail! 

"Cyflwynodd y Cyngor sachau gwyrdd cynaliadwy y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd ym mis Tachwedd 2021 ac mae hyn wedi helpu'r Cyngor i sicrhau gostyngiad o filiynau o fagiau clir plastig bob blwyddyn. Mae'r newidiadau yma i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd a'r newidiadau arfaethedig i wasanaeth trefnu Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor. Maen nhw hefyd yn dod â ni'n nes at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.

"Bydd ein newidiadau ni'n lleol yn helpu i wneud gwahaniaeth yn fyd-eang."

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff sych, gwastraff bwyd a gwastraff ‘gwyrdd’ i'w ailgylchu bob wythnos AM DDIM i dros 110,000 o gartrefi.

Yn ogystal â darparu gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd, mae hefyd gan y Cyngor sawl Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned.

Cofiwch ddidoli eich deunyddiau i'w hailgylchu yn ddeunyddiau papur, cardfwrdd, gwydr a metel ac ati cyn mynd i'r canolfannau. Bellach, dydyn nhw ddim yn derbyn bagiau ailgylchu cymysg.

Dyma leoliad y canolfannau ailgylchu yn y gymuned yn y Fwrdeistref Sirol: 

  • Tŷ Amgen, Llwydcoed, CF44 0BX   
  • Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
  • Ystad Ddiwydiannol Treherbert, CF42 5HZ
  • Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS 
  • Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT 
  • Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, CF72 8YT  

Bydd yr holl ganolfannau hyn yn diwallu eich anghenion o ran ailgylchu gwastraff, gan gynnwys nwyddau gwynion, cardfwrdd, dillad, plastig, hen oleuadau, pren, gwydr, metel, olew injan, tiwbiau fflworolau, plastrfwrdd, hen deganau, paent, teiars, hen setiau teledu, batris a llawer yn rhagor, gan gynnwys coed Nadolig.  

Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau. Byddan nhw'n hapus i roi cyngor i drigolion ar faterion ailgylchu a'u cynorthwyo i gael gwared ar eu deunydd y cartref. 

Mae POB canolfan ailgylchu yn y gymuned ar agor bob dydd, o 8am tan 7.30pm (oriau agor yr haf) ac mae modd mynd â fan fach neu ôl-gerbyd i'r canolfannau er mwyn cael gwared ar eitemau. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd ac mae'n debygol y bydd y rhain yn parhau i fod ar waith am gyfnod arall. Mae rhagor o fanylion ar y wefan: www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu

Yn ogystal â'r canolfannau ailgylchu yn y gymuned, mae TAIR siop ailddefnyddio wedi'u lleoli ym mhob ardal yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái – gydag ychwanegiad diweddar siop y Sied yng nghanol tref Aberdâr. Mae'r tair siop ailddefnyddio 'Y Sied' ar agor NAWR i chi bori trwy'r nwyddau a rhoi'ch eitemau iddyn nhw.   

Hoffen ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi cynifer o fagiau ailgylchu clir wrth ochr y ffordd ag y maen nhw eisiau.

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter. 

Wedi ei bostio ar 19/10/23