Bydd gwaith lleol yn dechrau yn Cilfynydd - er mwyn ailosod rhwyll cilfach cwlfer yn Nant Cae Dudwg.
Mae'r safle gwaith wedi'i leoli oddi ar Heol Pant-Du ger ei chyffordd â Heol Cilfynydd - gyda'r rhwyll yn y cwrs dŵr y tu ôl i'r eiddo teras ar Heol Cilfynydd.
Bydd y cynllun yn gwella'r isadeiledd ac yn bwriadu gwella gallu cilfach y cwlfer, er mwyn gwella'r modd mae malurion yn cael eu rheoli a chynyddu capasiti llif yn y cwrs dŵr yn y lleoliad yma.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 30 Hydref ac yn para oddeutu tair wythnos. Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni gan Garfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf ac is-gontractwr, Hammonds Ltd.
Er bod disgwyl i'r gwaith darfu cyn lleied â phosibl, efallai bydd angen gosod goleuadau traffig dros dro neu arwyddion symudol er mwyn cyfeirio traffig ar gyfer rhai elfennau o'r gwaith.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan gyfraniad gwerth 85% gan gynllun grant ar gyfer gwaith ar raddfa fach Llywodraeth Cymru.
Diolch ymlaen llaw i breswylwyr am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 24/10/2023