Skip to main content

GÊM AILGYLCHU NEWYDD RHONDDA CYNON TAF

GÊM AILGYLCHU NEWYDD RHONDDA CYNON TAF

Mae GÊM ryngweithiol NEWYDD wedi cael ei lansio'n swyddogol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yng Nghanolfan Ymwelwyr Alun Maddox yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni.

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Maerdy wedi bod yn chwarae a phrofi'r GÊM newydd sbon sy'n ceisio ein helpu ni i 'WELLA ein hymdrechion ailgylchu' yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r gêm newydd bellach ar gael i unrhyw un brofi eu gwybodaeth am ailgylchu, gan ddarganfod beth mae modd ei ailgylchu a ble mae angen rhoi pob eitem - ewch i www.rctcbc.gov.uk/GemAilgylchu

Mae'r disgyblion oedd yn ymweld â'r ganolfan yn rhan o sesiwn Cyngor Eco eu hysgol wedi cyrraedd brig y bwrdd sgorio - bydd yn her ichi ragori ar eu hymgais!

Allwch chi 'WELLA’CH YMDRECHION AILGYLCHU' ddigon i'w curo?

Mae'r gêm yn rhan o ymgyrch ailgylchu ddiweddaraf y Cyngor sy'n cyd-fynd â'r newidiadau diweddar ac yn ceisio helpu trigolion i ailgylchu cymaint ag y maen nhw'n gallu er mwyn inni leihau ôl troed carbon y Cyngor, gan ddod â ni'n agosach at fwrw targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25 - 'Dewch i ni fwrw'r TARGED!'.

Rydyn ni'n cymryd camau MAWR yn Rhondda Cynon Taf er mwyn ailgylchu a lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd. Ym mis Gorffennaf eleni, newidiodd y Cyngor ei gasgliadau bagiau du a biniau ar olwynion i rai bob tair wythnos er mwyn ceisio cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau allyriadau carbon! Hyd yn hyn, mae cyfraddau ailgylchu cynnar gwastraff bwyd a deunyddiau sych yn awgrymu bod y cyfraddau'n cynyddu a bod gwastraff bagiau du ar y cyfan yn lleihau - sy'n golygu bod ein trigolion ni'n mynd i'r afael â her 'CYNYDDU ein Cyfraddau Ailgylchu' er mwyn i ni 'Fwrw'r TARGED!' Os ydyn ni i gyd yn parhau â'n hymdrechion GWYCH, bydd Rhondda Cynon Taf yn ailgylchwyr heb eu hail! 

Cyflwynodd y Cyngor sachau gwyrdd cynaliadwy y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd ym mis Tachwedd 2021 ac mae hyn wedi helpu'r Cyngor i sicrhau gostyngiad o tua thair miliwn o fagiau ailgylchu plastig clir bob blwyddyn.

Aeth y Cynghorydd Ann Crimmings, sy'n Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, i Ganolfan Ymwelwyr Alun Maddox gyda'r plant er mwyn lansio'r GÊM yn swyddogol a gweld sut oedd y plant wedi mwynhau wynebu'r her newydd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae lansio’r GÊM newydd yn ein helpu ni i gyd i ddarganfod y rheolau, beth mae modd ei ailgylchu, does dim modd ei ailgylchu a ble i ailgylchu, mewn ffordd sy’n llawn hwyl ac sy’n cipio chwilfrydedd. Mae modd i'r teulu cyfan gymryd rhan ynddi - am fod gyda ni i gyd ran i'w chwarae drwy ailgylchu er mwyn lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd. Fe ges i  fy synnu gan rai o'r atebion y tro cyntaf - ond rwy'n falch o nodi fy mod wedi cael marciau llawn a thystysgrif wedi'i hargraffu i brofi hynny! Hoffwn i ddiolch i blant Ysgol Gynradd Maerdy am helpu i lansio'r GÊM newydd, roedd yn hyfryd i'w gweld nhw'n ei chwarae ac yn nodi cymaint o atebion cywir - roedd eu sgôr yn uchel iawn!

"Wrth inni ystyried ailgylchu, mae gwybod beth mae modd ei ailgylchu a ble yn bwysig iawn o ran lleihau halogiad a chynyddu cyfraddau ailgylchu cyffredinol. Yn Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb - gyda system bagiau clir hawdd ar gyfer eitemau sych mae modd eu hailgylchu. Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned o fewn ychydig o filltiroedd o bob preswylydd ac maen nhw ar agor bob diwrnod o'r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc.

"Rwy'n falch iawn o'n hymdrechion ailgylchu ni, ond mae cymaint yn rhagor mae modd i ni ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a hoffen nhw wneud Cymru a Rhondda Cynon Taf yn llefydd glanach a gwyrddach. Gyda'n gilydd mae modd i ni sicrhau bod Cymru'n cipio'r fedal aur am ailgylchu a’n bod ni'n amddiffyn ein planed gan ailgylchu'r pethau cywir a lleihau halogiad, bob tro.”

Os ydych chi'n barod i wynebu'r her, mae modd ichi chwarae'r GÊM ar www.rctcbc.gov.uk/GemAilgylchu. Cofiwch rannu eich sgoriau uchel gyda ni ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #GemAilgylchuRhCT

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad i'ch ysgol neu grŵp cymunedol chi, ewch i www.rctcbc.gov.uk/YmweldBrynPica, e-bostiwch YmweldBrynPica@rctcbc.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.   

Wedi ei bostio ar 19/10/23