Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos nesaf i wella capasiti a pherfformiad cilfach y cwlfer ar Deras Campbell yn Aberpennar - gan olygu cau'r ffordd yn lleol.
Bydd y Cyngor yn dechrau ar y cynllun ddydd Llun, Tachwedd 30, gyda'r gwelliannau'n cael eu darparu dros y pedair wythnos nesaf.
Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i gynyddu perfformiad hydrolig cilfach y cwlfer yn ei gyfanrwydd yn ystod stormydd, er mwyn lliniaru risg llifogydd yn y gymuned.
Bydd rhan fach o Deras Campbell yn cael ei gau dros dro yn ystod cyfnod y gwaith - rhwng Stryd Jeffrey a Stryd Austin.
Llwybr Amgen i Fodurwyr a Beicwyr - ewch ar hyd Stryd Austin, Teras Granville, Stryd Allen a Stryd Jeffrey.
Ni fydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys nac i gerddwyr, ond bydd mynediad ar gael i breswylwyr gael mynediad at eiddo yn yr ardal sydd wedi'i gau.
Bydd arwyddion yn nodi'r llwybr amgen i gerddwyr ar hyd Teras Campbell a Heol y Dyffryn (gan ddefnyddio'r lôn i'r ochr rhwng y strydoedd yma), cyn mynd ymlaen ar hyd Heol y Dyffryn at ochr arall yr ardal sydd wedi cau ar Stryd Jeffrey.
Mae'r cynllun yn cael ei hariannu drwy raglen 2023/24 i gwblhau gwaith atgyweirio'n dilyn Storm Dennis, sydd wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 30/10/23