Yn dilyn cynnydd pellach yn y gwaith ers y diweddariad diwethaf i breswylwyr, mae'r Cyngor wedi darparu crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf wrth i Gynllun Pont Heol y Maendy symud yn ei flaen yn sydyn.
Ers y diweddariad diwethaf ddechrau mis Medi, mae gwaith wedi parhau i wneud cynnydd da ac mae'r cynllun yn parhau ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn gynt na chafodd ei nodi ar yr amserlen. Mae Swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chontractwyr i geisio cwblhau'r gwaith yn gynt fyth gan leihau'r amserlen cymaint â phosibl. Mae'r trefniadau gwaith ar y penwythnos wedi'u dylunio i gyflymu'r cynnydd cymaint â phosibl.
Mae'r newidiadau rheoli traffig cymhleth sydd wedi golygu agor Stryd Bailey i hwyluso traffig lleol (Cwm-parc, y Bwlch ac Ysgol Gyfun Treorci) drwy'r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener wedi bod yn gweithio'n dda ers eu rhoi ar waith a byddan nhw'n cael eu hymestyn hyd at ddiwedd y cyfnod gwaith.
Mae'r gwaith sydd wedi'i gwblhau dros y bythefnos diwethaf yn cynnwys: dargyfeirio prif bibell gludo nwy Wales and West Utilities, lleoli a gosod (gan gynnwys gwaith pwytho) rhannau bwrdd y bont wedi'i rhag-gastio, a thyllu ac ail-adeiladu'r wal y tu allan i Rif 1. Heol y Maendy.
Hoffai'r Cyngor ddiolch unwaith eto i drigolion a chymudwyr am eu hamynedd a chydweithrediad parhaus drwy gydol y cynllun gwaith yma.
Wedi ei bostio ar 17/10/2023