Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar gynllun atgyweirio sylweddol y Bont Wen

Capture

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun atgyweirio mawr i Bont Heol Berw ym Mhontypridd. Mae dros 500 o atgyweiriadau concrit unigol wedi'u gwneud hyd yn hyn, ac mae'r diweddariad yn amlinellu'r rhaglen waith sy'n weddill.

Cafodd y strwythur Rhestredig, sef y Bont Wen, ei difrodi gan Storm Dennis, a chafodd ei chau ar unwaith ym mis Chwefror 2020 er diogelwch y cyhoedd. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda Cadw i gael caniatâd i wneud gwaith atgyweirio mawr ar y strwythur, sydd hefyd â phibell nwy arni.

Mae'r Cyngor wedi nodi’n glir bod hwn yn gynllun mawr sy'n gofyn am gau'r Bont Wen am gyfnod sylweddol o amser. Yn y diweddariad blaenorol (Awst 2023), nodwyd y byddai'r amserlen ar gyfer cwblhau yn cael ei phennu gan nifer yr atgyweiriadau sydd eu hangen i ran olaf y bont – i'w nodi unwaith y bydd y contractwr arbenigol yn tynnu'r haen amddiffynnol o goncrit wedi'i chwistrellu ('gunite') o'r adran yma.

Y newyddion diweddaraf ar gynnydd – Hydref 2023

Dechreuodd y gwaith adleoli'r sgaffaldau i ran olaf y bont ganol mis Awst ac fe gafodd hyn ei gwblhau ar ôl hynny. Roedd mynediad i gerddwyr dros y bont wedi'i gyfyngu dros dro, a chafodd ei adfer ar 11 Medi. Roedd hyn yn galluogi'r contractwr i ddechrau gwaith atgyweirio concrit i ran olaf y bont.

Sylwch, mae llawer o’r gwaith yn parhau o’r golwg o ymyl y ffordd – felly er ei bod yn ymddangos efallai nad oes unrhyw weithgarwch parhaus ar y safle, mae'r gwaith yn digwydd o dan y bont a thu ôl i orchudd y bont. 

Mae dros 500 o atgyweiriadau strwythurol unigol wedi’u gwneud hyd yn hyn, ac roedd angen atgyweiriadau gwaith dur strwythurol ar rai o’r rhain. Mae tua 14 tunnell o goncrit wedi cael ei ddefnyddio, ynghyd â 115 tunnell o 'gunite' - deunydd sy'n amddiffyn y concrit. Mae hon yn parhau i fod yn broses araf, gan fod faint o waith concrit a dur y gellir ei dynnu ar un adeg wedi'i gyfyngu er mwyn amddiffyn cyfanrwydd strwythurol y bont, ac mae amseroedd halltu yn cynyddu yn ystod tywydd oerach.

Ar ôl cael gwared ar y 'gunite' gwreiddiol, fe wnaeth y contractwr ddarganfod gwaith atgyweirio sylweddol pellach y mae angen eu cyflwyno’n raddol mewn modd priodol a’u cynnwys yn yr amserlen gwblhau gyffredinol. Bellach, amcangyfrifir mai yn ystod gwanwyn 2024 fydd hyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y gwaith atgyweirio concrit parhaus yn parhau ar ran olaf y bont yn yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i'r sgaffaldau gael eu tynnu oddi ar y bont ac i swyddfa safle'r contractwr gael ei thynnu o'i leoliad presennol yn y flwyddyn newydd – er mwyn caniatáu cynnydd ar weddill y cynllun.

Bydd y gweithgarwch sy'n weddill yn cynnwys cael gwared ar arwyneb presennol y ffordd gerbydau, ymyl y palmant a'r llwybr troed, a dargyfeirio cyfleustodau allweddol dros dro megis prif gyflenwad nwy a dŵr, ceblau trydan a goleuadau stryd. Bydd hyn yn galluogi gwaith atgyweirio concrit a diddosi i ddec y bont. Yn rhan o elfennau olaf y cynllun, bydd system ddraenio priffyrdd newydd yn cael ei adeiladu, bydd gwaith atgyweirio/paentio yn cael ei gynnal ar barapetau'r bont, a bydd y llwybr troed, y ffordd gerbydau, y rheiliau a'r goleuadau stryd yn cael eu hadfer.

Bydd swyddfa'r contractwr yn cael ei hadleoli i'r Rhodfa yn y flwyddyn newydd, ac felly bydd angen cau ffordd yn y lleoliad yma. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu yn nes at yr amser. Bydd cau'r ffordd yn galluogi Wales & West Utilities i gynnal gwaith sylweddol ar brif bibellau nwy, nad ydyn nhw'n gysylltiedig â chynllun y Bont Wen ac y byddai'n gofyn am gau'r ffordd fel arall yn y dyfodol.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion am eu cydweithrediad parhaus wrth i'r cynllun pwysig a chymhleth yma fynd rhagddo ymhellach tuag at ei gwblhau.

Wedi ei bostio ar 27/10/23