Mae'r Cabinet wedi derbyn adroddiad ar y cynnydd sydd wedi’i wneud yn ystod blwyddyn gyntaf Strategaeth Cartrefi Gwag Rhondda Cynon Taf. Mae gwaith ac ymyraethau penodol wedi arwain at ddechrau ailddefnyddio 258 o gartrefi ers mis Hydref 2022.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i leihau nifer y cartrefi gwag yn yr ardal gan eu bod nhw'n wastraff arian ac yn adnoddau y gellid eu defnyddio i ddarparu tai fforddiadwy angenrheidiol. Gall cartrefi gwag edrych yn hyll ac maen nhw'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet flwyddyn yn ôl, cyflwynodd y Strategaeth Cartrefi Gwag (2022-2025) wedi’i diweddaru amcanion newydd er mwyn parhau â'r gwaith da a gafodd ei wneud o 2018 hyd at 2021 er mwyn dechrau ailddefnyddio 662 o gartrefi gwag.
Ddydd Llun, 23 Hydref, darparodd adroddiad i'r Cabinet ddiweddariad cynnydd ar nifer y cartrefi gwag presennol yn dilyn blwyddyn gyntaf y strategaeth newydd. Nodwyd bod 646 o ymyraethau wedi'u darparu, sy'n fwy na'r targed o 400 y flwyddyn a gafodd ei bennu. Mae cofnodion treth y Cyngor yn dangos bod nifer y cartrefi gwag wedi gostwng gan 258 (2,892 i 2,634) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a 922 ers mis Ebrill 2017.
Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith swyddogion dros y flwyddyn ddiwethaf tuag at gyflawni’r pum amcan sydd wedi'u rhestru ar waelod y diweddariad yma. Mae modd gweld yr adroddiad llawn ar-lein, ac mae crynodeb byr o’r gwaith allweddol i'w weld isod.
Mae'r Grŵp Gweithredol = Cartrefi Gwag yn dod â swyddogion Cyngor o'r Strategaeth Tai, Grantiau Tai, Iechyd y Cyhoedd, Adnewyddu a Threth y Cyngor ynghyd i ganolbwyntio ar leihau nifer y cartrefi gwag hir dymor. Mae Fforwm Landlordiaid Rhondda Cynon Taf yn ymgysylltu ag oddeutu 40 o landlordiaid. Mae'r grwpiau'n cwrdd unwaith bob chwarteri drafod materion lleol ac ystyried sut i'w lliniaru.
Mae ein gwaith gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddechrau ailddefnyddio adeiladau masnachol gwag hefyd yn parhau. Mae cynlluniau sydd ar waith ar hyn o bryd yn cynnwys 122-126 Stryd Dunraven, hen siop y 'Co-op' yn Nhonypandy a Swyddfa Ddosbarthu Treorci. Mae prosiectau newydd sydd wedi'u cyflwyno i'r rhaglen grantiau tai cymdeithasol yn cynnwys hen safle Ysgol Gynradd Cwm-bach, a'r YMCA a'r Ffatri Fotymau yn ardal Porth.
Mae’r Cyngor, mewn partneriaeth â Hafod a Trivallis, wedi cyflwyno cais am gyllid yn rhan o Raglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro Llywodraeth Cymru yn 2023/24 er mwyn dechrau ailddefnyddio saith eiddo a chaffael 36 eiddo gwag arall. Mae hyn ar ben yr 11 eiddo gwag sydd bellach yn cael eu hailddefnyddio o ganlyniad i’r cyllid grant a gafodd ei sicrhau yn 2022/23.
Mae'r Cyngor wedi'i benodi yn awdurdod arweiniol ar gyfer Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ac mae £4.8 miliwn wedi'i ddyrannu i gynlluniau yn Rhondda Cynon Taf dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r cynllun yn cynnig grantiau (gwerth hyd at £25,000) fel bod modd i berchnogion tai gael gwared ar beryglon er mwyn eu gwneud yn ddiogel a gwella effeithlonrwydd ynni. Hyd yn hyn, mae 107 o geisiadau dilys wedi'u derbyn yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r Cyngor hefyd wedi arwain ar waith Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd a oedd wedi defnyddio £4.6 miliwn er mwyn dechrau ailddefnyddio 263 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf erbyn mis Mawrth 2023. Mae Grant Cartrefi Gwag Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi £1.3 miliwn yn lleol, ac mae disgwyl dechrau ailddefnyddio 28 tŷ arall erbyn mis Mawrth 2024. Mae'r Cyngor hefyd wedi dyrannu 155 o fenthyciadau Troi Tai'n Gartrefi sy'n cyfateb i £4.4 miliwn. Mae hynny wedi arwain at droi hen eiddo gwag yn 221 o unedau llety.
Cyflwynwyd premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hir dymor ym mis Ebrill 2023 ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu'n rhagor yn rhan o strategaeth ehangach y Cyngor i ddechrau ailddefnyddio cartrefi gwag. Ers mis Ebrill 2023, mae nifer yr ymholiadau am fenthyciadau/grantiau a chymorth â chartrefi gwag wedi cynyddu. Mae hyn yn arwydd cynnar cadarnhaol, ac mae trefniadau parhaus yn eu lle i fonitro effaith gwaith y Cyngor yn y maes yma.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae adroddiad y Cabinet o ddydd Llun yn dangos y gwaith sylweddol sy'n mynd rhagddo gan y Cyngor i geisio cyflawni ein hymrwymiad i leihau nifer y cartrefi gwag yn Rhondda Cynon Taf. Mae dechrau ailddefnyddio 258 o gartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ddeilliant anhygoel, ac mae'n ychwanegu at y cyfanswm o 922 o dai sy'n cael eu hailddefnyddio ers 2017. Mae hyn yn bendant wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
"Cytunodd y Cabinet ar ein Strategaeth Cartrefi Gwag ym mis Hydref 2022, gan gydnabod yr angen am ddull cryf a strategol er mwyn gwneud cynnydd ystyrlon. Mae gan y strategaeth newydd amcanion clir a realistig i leihau nifer y cartrefi gwag ac i sicrhau bod y newidiadau yn gynaliadwy.
"Rhan allweddol o waith cadarnhaol y Cyngor yw sicrhau bod pobl yn effro i'r cymorth sydd ar gael a'u cynorthwyo nhw i gael mynediad ato mewn modd didrafferth. Yn dilyn llwyddiant Grant Cartefi Gwag Rhondda Cynon Taf, penodwyd y Cyngor yn awdurdod arweiniol gan Tasglu'r Cymoedd a Llywodraeth Cymru ar gyfer eu cynlluniau. Mae cael ein cydnabod ar lefel ranbarthol a chenedlaethol fel hyn yn dangos ein bod ni ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â chartrefi gwag.
"Mae hi'n wych cael gweld bod mwy na 700 o gontractwyr lleol wedi'u defnyddio ac oddeutu 700,000 o oriau gwaith wedi’u cofnodi gan gynllun Tasglu’r Cymoedd yn unig. Mae hynny wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar yr economi leol.
"Mae llawer o waith yn dal i fod o'n blaenau er mwyn lleihau nifer y cartrefi gwag sy'n dal i fodoli. Byddwn ni'n parhau i wneud ein gorau glas i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n deillio o'r mater yma - megis darparu tai fforddiadwy neu ddatblygiadau cymuned - ac i ddiogelu cymunedau rhag yr effaith negyddol posibl sy’n gysylltiedig â chartrefi gwag. Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd y gwaith yma i gyflawni pum prif amcan y Strategaeth Cartrefi Gwag."
Mae pum amcan Strategaeth Cartrefi Gwag Rhondda Cynon Taf (2022-2025) yn cynnwys:
- Datblygu partneriaethau - parhau i ymgysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, partneriaid yn y sector preifat, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid, wrth gydlynu camau gweithredu y Grŵp Gweithredol Cartrefi Gwag.
- Manteisio ar gyllid sydd ar gael a chydnabod cyfleoedd cyllido pellach - ceisio cyfleoedd pellach wrth barhau i reoli Grant Cartrefi Gwag y Cyngor a'r Cynllun Benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi mewn modd effeithiol.
- Defnyddio ystod o ymyraethau sy'n mynd i'r afael â phob math o gartrefi gwag - o adolygu premiymau Treth y Cyngor ar gyfer cartrefi gwag hir dymor ac ail gartrefi, i waith gorfodi ble y bo’n addas
- Gwaith ymchwil cymunedol a gwerthuso cynlluniau presennol – dadansoddi’r holl ffactorau sy'n effeithio ar gartrefi gwag ar lefel y Fwrdeistref Sirol a wardiau, wrth adolygu'r arferion gorau ac effeithiolrwydd yr ymyraethau.
- Nodi datrysiadau er mwyn atal cartrefi rhag dod yn wag - dadansoddi'r farchnad dai leol, cryfhau'r farchnad, a manteisio i’r eithaf ar y meysydd cyfleoedd strategol a chyfleoedd rhanbarthol ehangach.
Wedi ei bostio ar 27/10/23