Bydd cynllun i atgyweirio wal yn Heol Abernant yn cael ei gwblhau wythnos nesaf. Rhaid cau troedffordd leol yn rhan o'r gwaith, felly mae'r gwaith wedi'i drefnu yn ystod hanner tymor er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Mae'r wal (i'w gweld yn y llun) wedi'i lleoli i gyfeiriad y de o'r troad i mewn i hen safle'r ysbyty. Bydd y Cyngor yn defnyddio arian refeniw i dalu am y gwaith.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 30 Hydref ac yn cael ei gwblhau erbyn diwedd hanner tymor.
Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared â llystyfiant, ailadeiladu rhannau o'r wal, ac ailosod nifer o gerrig copa.
Mae'r Cyngor wedi penodi Hammonds Ltd i gwblhau'r gwaith.
Bydd angen cau'r troedffordd sydd ger y wal ar Heol Abernant – dylai cerddwyr ddefnyddio'r troedffordd sydd ar ochr arall y ffordd.
Bydd arwyddion yn cael eu gosod ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod am y gwaith. Dydyn ni ddim yn rhagweld bydd yna gynllun rheoli traffig.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 25/10/2023