Skip to main content

Cynllun atgyweirio Pont Nant Gelliwion ar fin dechrau

Nant Gelliwion Bridge, Maesycoed - Copy

Bydd system gwlfer well yn cael ei gosod ger pont yn ardal wledig Heol Gelliwion #Maes-y-coed o ddydd Llun, 25 Medi ymlaen.    

Mae Pont Nant Gelliwion wrth y trofeydd sydyn tuag at ben deheuol Heol Gelliwion, i'r gorllewin o Benycoedcae ac i'r de-orllewin o'r Graig.

Mae Walters UK Ltd wedi'u penodi'n gontractwyr i gwblhau'r gwaith, fydd yn lliniaru risg o lifogydd ar y ffordd gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru oedd wedi'i ddyrannu ar gyfer gwaith atgyweirio wedi Storm Dennis.

Bydd y bont yn cael ei hamnewid â system cwlfer mwy a bydd y ffordd yn cael ei lledu ar gyfer cerbydau sy'n mynd a dod.

Bydd gwaith arall yn cynnwys adeiladu waliau ystlys yn uwch i fyny'r afon, gosod hoelion pridd i gynnal ochr y ffordd, adeiladu rhwystr cerbydau, adnewyddu'r system ddraenio ac ailwynebu'r ffordd.

Bydd angen cau rhan ddeheuol Heol Gelliwion, o'i chyffordd â Heol Tonyrefail a Thŷ Draw - yn unol â'r hyn gaiff ei nodi ar y map canlynol.

Llwybr Amgen - ewch ar hyd Heol Tonyrefail, Ffordd Llantrisant, Lôn y Ffatri a Heol Gelliwion. Bydd y ffordd wedi cau hyd at ddechrau mis Ionawr 2024.

Bydd cau'r ffordd yn atal mynediad uniongyrchol at Heol Tonyrefail. Fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys nac i gerddwyr.

Bydd mynediad i breswylwyr/busnesau yn cael ei gynnal drwy ddefnyddio ochr Maes-y-coed. Maen nhw wedi derbyn llythyr yn amlinellu'r trefniadau dros dro.

Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 20/09/2023