Mae'r Cyngor wedi rhoi gwybod am gynnydd y cynllun i adnewyddu ac atgyweirio Pont Imperial yn y Porth. Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo a'r gobaith yw bydd yn gorffen erbyn diwedd yr hydref.
Mae'r gwaith ar y strwythur, sy'n cario rhan o Heol Pontypridd, wedi cynnwys dau gam sylweddol o waith atgyweirio er mwyn trwsio difrod a gosod amddiffynfeydd ar gyfer y dyfodol. Cafodd Cam Un ei gynnal yn 2022, a oedd yn cynnwys gwaith atgyweirio sylweddol i'r gwaith dur a rhagfuriau, gwaith paentio ac amnewid berynnau ochr ddeheuol y bont.
Dechreuodd Cam Dau ym mis Ebrill 2023, a oedd yn cynnwys gwaith amnewid berynnau ochr ogleddol y bont, cynnal atgyweiriadau i wal adain, cynnal gwaith gwrth-ddŵr a chyflawni gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu diolch i arian wedi'i ddyrannu ar gyfer Strwythurau Priffyrdd yn rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2023/24.
Y diweddaraf o ran cynnydd y gwaith
Mae'r contractwr, Centregreat Ltd, wedi gwneud cynnydd pwysig dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys amnewid holl ferynnau gogleddol y bont.
Mae'r gwaith diweddaraf ar y safle wedi cynnwys tynnu wyneb y ffordd (gweler y llun) er mwyn gwneud y bont yn wrth-ddŵr. Bydd angen trwsio'r concrid llanw, sef gwaith sy'n amodol ar y tywydd, cyn i'r gwaith gwrth-ddŵr gael ei gwblhau. Mae hyn wedi golygu bydd y rhaglen gyfan yn cael ei chwblhau'n hwyrach na'r disgwyl. Bydd y Cyngor yn rhoi'r diweddaraf mewn da bryd er mwyn i drigolion wybod am gynnydd pellach ac am drefniadau cwblhau'r cynllun.
Cofiwch, hyd nes y bydd y cynllun wedi'i gwblhau, bydd rhan Heol Pontypridd y bont yn parhau ar gau i yrwyr yn unig. Bydd teithiau bws lleol yn cael eu dargyfeirio – bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau 132, 124 a 131. Bydd y gwasanaeth bws gwennol ar ddydd Sul (rhwng Heol Llwyncelyn a chanol tref Porth) yn parhau.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion unwaith eto am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i'r gwaith fynd rhagddo i gwblhau'r rhaglen dros yr wythnosau nesaf.
Wedi ei bostio ar 28/09/23