Skip to main content

Ffair Swyddi Cyngor Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid 2023

Careers Fayre

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi y bydd ein Ffair Swyddi boblogaidd yn cael ei chynnal ddydd Mercher 27 Medi 2023 yn Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn, CF37 4TH rhwng 10am a 2pm. Bydd 'awr dawel' rhwng 1pm a 2pm.

Bydd yr achlysur yn gyfle i chi siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr a gweithwyr, cymryd rhan mewn gweithdai a fydd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer cyfweliad ac ysgrifennu CV, a chael cyfle i ddechrau cyflwyno cais am swydd ar y diwrnod!

Bydd dros 50 o sefydliadau yn bresennol yn y ffair a byddan nhw’n awyddus i lenwi swyddi sy'n addas i bawb yn y gymuned ar unwaith. Bydd ein rheolwyr gwasanaeth a'n gweithwyr yn bresennol i roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch am weithio i Gyngor RhCT!

Os ydych chi’n chwilio am gyfle newydd, yn newid gyrfa, neu’n dechrau eich bywyd gwaith, bydd rhywbeth at ddant pawb!

Yn dilyn llwyddiant ein Ffair Swyddi ym mis Mawrth, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu rhagor o gyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith i'n ffair swyddi am ddim.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae’r Ffair Swyddi’n hynod o boblogaidd, ac rydw i'n falch o’i gweld yn dychwelyd!

“Rydyn ni fel Cyngor wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i’n trigolion gael mynediad at gyflogaeth o safon. Mae'r Ffair Swyddi yn dod â chyflogwyr lleol ynghyd ac yn dangos ein bod ni, fel Cyngor, am roi cyfle i drigolion gael mynediad at y swyddi yma.

“Mae cymaint ar gael ar y diwrnod. Rydw i’n annog pawb sy’n chwilio am gyfle newydd, cyfle gwahanol, neu sy’n chwilio am eu swydd gyntaf i alw heibio i gael gwybod am yr hyn sydd ar gael.”

Bydd amrywiaeth eang o bartneriaid o fyd hyfforddiant ac addysg wrth law i roi cyngor ac arweiniad o ran gyrfaoedd.

Dewch i weld amrywiaeth eang o gyflogwyr sy’n cynnwys:

  • ACT Training
  • ARC Rail
  • Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin
  • Balfour Beatty
  • Care Cymru
  • Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
  • Dominos
  • First Source
  • GE
  • Q Care
  • Cyngor RhCT
  • Y Llynges Frenhinol
  • RTS Tree Specialist
  • Rubicon
  • Screen Alliance Wales
  • Teacher Active
  • Trivallis
  • Llywodraeth Cymru
  • Gofal Cymdeithasol i Oedolion RhCT
  • Tîm Gofal i Blant RhCT
  • Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion RhCT
Wedi ei bostio ar 14/09/23