Skip to main content
Alert Symbol
Storm Goretti: Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Tywydd AMBR am eira ac iâ. Bydd y rhybudd mewn grym o nos Iau, 8 Ionawr tan fore Gwener, 9 Ionawr. Bwriwch olwg ar gyngor pellach ar sut i baratoi ar gyfer Storm Goretti.

Adolygu Cynllun Cilfachau Parcio Unigol i'r Anabl

Bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad llawn o'i Gynllun Cilfachau Parcio Unigol i'r Anabl, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion a mynd i'r afael â'r heriau parhaus o ganlyniad i ragor o alw a phwysau ar y gyllideb.

Yn dilyn Penderfyniad Dirprwyedig diweddar gan Swyddog, bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal erbyn diwedd 2024 a bydd yn llywio adroddiad fydd yn cael ei drafod yn ffurfiol cyn i unrhyw gynigion gael eu cyflwyno ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.

O ganlyniad i'r adolygiad sydd ar y gweill, fydd dim modd cyflwyno ceisiadau newydd am Gilfachau Parcio Unigol i'r Anabl o 1 Medi 2023. Bydd yr holl geisiadau a gafodd eu cyflwyno yn 2022/23, ac sydd wedi'u cymeradwyo, yn parhau yn unol â'r prosesau arferol.

Wedi ei bostio ar 01/09/2023