Mae'r Cabinet wedi cytuno ar gynigion i'r Cyngor ddarparu pecyn cymorth newydd gwerth bron i £4.3 miliwn er mwyn cefnogi cymunedau, teuluoedd a thrigolion lleol y mae'r Argyfwng Costau Byw wedi effeithio arnyn nhw.
Cytunwyd ar y cynllun gan y Cabinet yn eu cyfarfod ddydd Llun, 18 Medi, ac mae ar ben sawl cynllun cymorth sydd wedi'u darparu'n barod gan y Cyngor mewn ymateb i'r argyfwng. Cafodd y cynllun blaenorol, gwerth £2.9 miliwn, ei ddarparu yn yr Hydref, 2022. Roedd pecyn 2022 wedi helpu i liniaru effaith y caledi ar deuluoedd ac unigolion drwy ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd â phlant a thrwy gefnogi banciau bwyd.
Mae Cynllun Cymorth Costau Byw 2023 y Cyngor yn cynnwys:
- Taliad i deuluoedd ag un plentyn neu ragor sydd o oedran ysgol gorfodol - bydd taliad o £125 yn cael ei wneud i deuluoedd cymwys sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn yn cynnwys plant sy'n cael eu haddysgu gartref, plant sy'n mynychu ysgol yn Rhondda Cynon Taf neu'n mynychu ysgol y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol. Nodwch – dyma daliad fesul teulu, nid fesul plentyn. Bydd oddeutu 22,000 o deuluoedd yn gymwys ar gyfer y taliad yma sy'n gyfanswm o £2.750 miliwn.
- Cronfa Galedi Costau Byw Leol - Cymorth i Drigolion - mae pecyn gwerth £260,000 wedi cael ei greu'n gronfa ddewisol er mwyn helpu trigolion sy'n wynebu caledi ariannol eithafol. Mae'r gronfa'n cynnwys £100,000 tuag at dalebau tanwydd er mwyn helpu trigolion i gynhesu eu cartrefi, £60,000 i helpu trigolion i brynu cyfarpar cegin sy'n arbed ynni a thalebau bwyd, ac yn olaf, dyraniad ychwanegol gwerth £100,000 i'w ychwanegu at ein Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn presennol. Bydd modd gweld manylion cymhwysedd pob un o'r cronfeydd yma ar wefan y Cyngor.
- Cronfa Galedi Costau Byw Leol - Cymorth i'r Gymuned - mae'r pecyn yma wedi'i dargedu at gymorth i'r gymuned ac yn cynnwys £80,000 i helpu lleoliadau cymunedol i ddod yn Ganolfannau Croeso yn y Gaeaf. Mae'r rhain yn ganolfannau fydd yn darparu eitemau pecyn cynnes, diodydd a byrbrydau i drigolion mewn angen. Hefyd, bydd y pecyn yn dyrannu £30,000 er mwyn i leoliadau ddarparu prydau poeth a £50,000 ychwanegol ar gyfer cymorth caledi ariannol pellach. Cyfanswm pecyn cymorth i'r gymuned fydd £160,000. Bydd modd gweld manylion cymhwysedd y gronfa yma ar wefan y Cyngor.
- Cymorth i Fanciau Bwyd - bydd pecyn cymorth gwerth £50,000 yn cael ei ddarparu er mwyn cefnogi banciau bwyd lleol a grantiau cymorth bwyd. Dyma'r un lefel o gymorth gafodd ei darparu yn rhan o'r ddau gynllun diwethaf.
- Grant Cymorth Ynni Cyfleusterau Cymunedol - bydd grant cymorth gwerth £130,000 ar gael i sefydliadau nid-er-elw i helpu gyda chostau ynni. Mae'r sefydliadau yma'n cynnwys cyfleusterau sy'n darparu cyfuniad o weithgareddau a/neu weithgareddau chwaraeon y bydd angen iddyn nhw ymgeisio am daliad o £540 fesul sefydliad.
Mae disgwyl i'r cynllun gael ei roi ar waith rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2023 a bydd manylion pellach yn ymwneud ag elfennau penodol o'r cynllun, gan gynnwys sut i ymgeisio a manylion cymhwysedd, ar gael ar wefan y Cyngor. Cyfanswm cost y cynllun yw £4.292 miliwn.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol pellach yma ar gyfer 2023 yn ceisio helpu trigolion a theuluoedd sy'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r Argyfwng Costau Byw parhaus. Bydd y cynllun yn sicrhau bod teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn derbyn y cymorth sydd ei angen wrth i gostau tanwydd, bwyd ac ynni gynyddu.
"Er bod chwyddiant wedi gostwng i 6.8% ym mis Gorffennaf, a bod disgwyl i'r cap ar brisiau ynni ostwng i £1,923 o 1 Hydref ymlaen, mae costau ynni a bwyd yn parhau i fod yn uchel iawn. Yn ogystal â hyn, wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, bydd sawl aelwyd yn wynebu costau cynyddol i gynhesu eu cartrefi, a'r pwysau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu adeg y Nadolig. Mae'n hanfodol ein bod ni fel Awdurdod Lleol yn darparu cymorth ychwanegol i'r rheiny sydd ei angen fwyaf.
"Mae pum prif elfen i'r cymorth y mae'r Cyngor wedi cytuno arno - darparu taliadau gwerth £125 i deuluoedd cymwys sydd â phlentyn/plant o oedran ysgol, cronfa galedi cymorth i drigolion gwerth £260,000, cronfa galedi cymorth i'r gymuned gwerth £160,000, pecyn cymorth i fanciau bwyd lleol gwerth £50,000 a phecyn gwerth £130,000 er mwyn helpu i liniaru pwysau costau ynni ar gyfer sefydliadau nid-er-elw sy'n cynnal cyfleusterau i'r gymuned.
"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i helpu ein trigolion cymaint ag y gallwn ni. Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod pecyn cymorth pellach yn cael ei roi ar waith ac rwy'n siŵr y bydd y mesurau ychwanegol yma'n cefnogi teuluoedd ac unigolion ledled ein cymunedau i oresgyn rhai o bwysau Costau Byw.”
Cymhwysedd a rhagor o wybodaeth:
- Taliad i deuluoedd ag un plentyn neu ragor o oedran ysgol gorfodol:
- Bydd oedran ysgol gorfodol yn cael ei bennu ar ddechrau’r tymor ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2023.
- Mae plentyn yn dechrau bod o oedran ysgol gorfodol y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump oed.
- Os oes gan deulu un neu ragor o blant wedi'u geni rhwng 1 Medi 2007 (h.y. 16 oed adeg 31 Awst 2024) a 31 Awst 2018 (h.y. 5 oed adeg 31 Awst 2023) ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, yna byddan nhw'n gymwys i gael Taliad i Deuluoedd.
- Fydd y taliad ddim yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau (e.e. Credyd Cynhwysol).
- Grant Cymorth Ynni Cyfleusterau Cymunedol:
- Bydd sefydliadau nid-er-elw yn y gymuned y mae'r Cyngor (RhCT Gyda'n Gilydd) yn gwybod amdanyn nhw ac sy'n cynnal cyfuniad o weithgareddau a/neu weithgareddau chwaraeon yn cael eu gwahodd i ymgeisio am y cyllid yma.
- Mae disgwyl i'r gwahoddiadau gael eu rhannu yn ystod mis Hydref 2023.
Wedi ei bostio ar 21/09/2023