Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod gwaith ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau'r Miwni bellach yn mynd rhagddo! Mae contractwyr wedi dechrau ar y gwaith o adnewyddu'r lleoliad poblogaidd ym Mhontypridd, fel bod modd iddo ailagor yr haf nesaf.
Mae arddull gothig i'r Adeilad Rhestredig Gradd II yng nghanol tref Pontypridd, ac fe agorodd yn wreiddiol yn Gapel Wesleaidd yn 1895. Yn ddiweddarach, daeth yn gyrchfan boblogaidd i fwynhau'r celfyddydau a cherddoriaeth yn y rhanbarth. Yn 2019, cyhoeddodd y Cyngor gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer prosiect adnewyddu mawr, gyda’r nod o ailsefydlu’r Miwni yn ganolfan gelfyddydau boblogaidd gyda dyfodol cynaliadwy.
Rydyn ni'n yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a fydd yn gyfrifol am gynnal canolfan y Miwni yn dilyn ei hailddatblygu. Bydd yr ymddiriedolaeth yn manteisio ar ei phrofiad helaeth o redeg ystod o gyfleusterau diwylliannol yn hyn o beth. Llwyddodd y prosiect i sicrhau cyllid gwerth £5.3 miliwn yn ystod rownd gyntaf Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan ar ddiwedd 2021.
Yn dilyn gwaith sylweddol y tu ôl i'r llenni i gwblhau cam dylunio'r prosiect ac i sicrhau'r holl ganiatâd statudol gofynnol, cychwynnodd contractwr penodedig y Cyngor, Knox and Wells, y gwaith mewnol cyntaf ar y safle yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun, 4 Medi.
Bydd yr ailddatblygiad yn cynnig lleoliad cynnal achlysuron amlbwrpas a chwbl hygyrch, a fydd yn cefnogi rhaglen amrywiol o gerddoriaeth fyw a sinema. Yn ogystal â hynny, bydd bar i gefnogi'r economi leol o ran hamddena a gweithgarwch gyda'r nos.
Bydd y gwaith yn cynnwys prosiect cadwraeth a thrwsio'r lleoliad, gyda'r nod o ddatgelu pensaernïaeth gothig syfrdanol yr adeilad. Bydd y brif neuadd yn cael ei hadnewyddu tra bydd y cyntedd, y bar a'r lledloriau yn cael eu hailfodelu. Bydd lifftiau, toiledau, ystafelloedd newid a chyfleuster Changing Place yn cael eu gosod, a bydd gwelliannau cysylltiedig y tu ôl i'r llwyfan.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Rydw i'n falch iawn bod y prif waith adeiladu i ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau’r Miwni bellach wedi dechrau. Dyma feincnod pwysig a fydd yn arwain at ailagor drysau'r ganolfan. Bydd y prosiect cyffrous yn amlygu nodweddion gwreiddiol a threftadaeth y ganolfan, tra hefyd yn sicrhau ei bod hi'n addas at ddibenion diwylliannol y dyfodol ac yn diwallu anghenion y gymuned.
“Mae dyluniad y prosiect wedi canolbwyntio ar y ddau brif nod yma - diogelu ac amlygu nodweddion gwreiddiol yr adeilad lle bo modd gwneud hynny, a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Miwni yn ganolfan ddiwylliannol. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sydd â hanes rhagorol o ofalu am leoliadau o'r fath. Mae’n addas iawn hefyd mai’r contractwr penodedig, Knox and Wells, yw'r un cwmni a adeiladodd yr eglwys wreiddiol yn 1895.
“Mae ailddatblygiad y Miwni yn un o nifer o brosiectau adfywio cyffrous ym Mhontypridd. Cafodd prosiectau Llys Cadwyn, cyfleuster Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf ac YMa (YMCA Pontypridd) eu cwblhau'n ddiweddar. Mae nifer o brosiectau allweddol hefyd ar y gweill yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd – gan gynnwys y prosiect ar lan yr afon (hen adeilad M&S), darparu man cyhoeddus o ansawdd uchel ar hen safle’r neuadd bingo, a buddsoddiad pellach ym Mharc Coffa Ynysangharad.
“Bydd y Cyngor yn darparu diweddariadau i drigolion wrth i brosiect Canolfan Gelfyddydau’r Miwni fynd rhagddo ar y safle dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau yn ystod haf 2024, a hynny mewn pryd i gael ei ddefnyddio’n lleoliad allweddol pan fyddwn ni'n croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Bontypridd.”
Wedi ei bostio ar 07/09/2023