Mae'r Cyngor wedi rhannu'r newyddion diweddaraf am ei raglen waith i wella ffyrdd preifat sydd wedi bod mewn cyflwr gwael ers amser maith - gyda phob ffordd wedyn yn cael ei mabwysiadu ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.
Mae cyfanswm o 25 o gynlluniau wedi'u cwblhau, gyda gwaith yn dal i fynd rhagddo ar un cynllun arall. Mae pedwar lleoliad newydd wedi’u nodi’n ddiweddar, a bellach mae cyllid wedi’i ddyrannu ar eu cyfer yn rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2024/25.
Yn 2021/22, cytunodd y Cyngor ar raglen o chwe chynllun cychwynnol, mewn lleoliadau lle roedd ffyrdd preifat wedi’u gadael mewn cyflwr anfoddhaol ers blynyddoedd lawer. Nod y rhaglen oedd mynd i'r afael â'r mater yma, sy'n creu trafferth i nifer o drigolion sy'n byw ar ffyrdd preifat. Roedd y gwaith nid yn unig yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd, ond hefyd yn darparu amrywiaeth o welliannau eraill, o waith carthffosiaeth i oleuadau stryd.
Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau cychwynnol, mae'r Cyngor wedi parhau i nodi cynlluniau newydd ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu o fewn ei raglen gyfalaf bob blwyddyn. Mae ein buddsoddiad o £1.4 miliwn hyd yma wedi arwain at gwblhau 25 o gynlluniau mewn cymunedau lleol – gyda gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun arall (yn yr Ucheldir, Tonyrefail) ar hyn o bryd.
Ym mis Mawrth 2024, dyrannwyd cyllideb ychwanegol o £200,000 ar gyfer pedwar cynllun newydd yn 2024/25 – oddi ar Deras Bronallt yn Abercwmboi, oddi ar Heol Brynmair yng Ngodreaman, yng Nghlos y Berllan yn y Porth, ac yn Heol Graig yn Ynyshir.
Mae rhestr gyflawn o'r 30 cynllun hyd yma (gan gynnwys y 25 sydd wedi'u cwblhau, yr un sy'n mynd rhagddo, a'r pedwar sydd newydd eu nodi) wedi'i chynnwys ar waelod y diweddariad yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae ffyrdd preifat sydd ddim yn cael eu cynnal a'u cadw i safon dderbyniol yn broblem wirioneddol i drigolion mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol - a dyna pam rydyn ni bellach wedi cytuno i fuddsoddi yn y maes yma am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
“Yn ddiweddar, cytunodd y Cabinet ar fanylion Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd gwerth £30.894 miliwn ar gyfer 2024/25 – ac mae'r pedwar cynllun newydd ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu wedi’u cynnwys yn ein pecyn cynnal a chadw ffyrdd ehangach ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd y gwaith yn Ynys-hir, Abercwmboi, Godreaman a’r Porth yn dod â chyfanswm ein buddsoddiad i wella a mabwysiadu 30 o ffyrdd preifat dros y blynyddoedd diwethaf i £1.6 miliwn.
“Trwy fabwysiadu pob ffordd ar ôl cwblhau’r gwaith, mae’r Cyngor yn sicrhau y bydd modd i drigolion eu defnyddio am flynyddoedd i ddod – ac yn gyffredinol rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan drigolion sy’n byw ar strydoedd sydd wedi elwa ar y rhaglen. Bydd ein swyddogion yn trefnu manylion y pedwar cynllun newydd ar gyfer 2024/25, cyn rhoi gwybod am y trefniadau ar gyfer cyflawni'r gwaith maes o law.”
Y Newyddion Diweddaraf am y Rhaglen Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu
25 o gynlluniau wedi'u cwblhau
- Rhes y Glowyr, Llwydcoed
- Maes Aberhonddu, Aberaman
- Heol Penrhiw, Aberpennar
- Teras Ochr y Bryn, Llwynypia
- Teras Trafalgar, Ystrad
- Clos y Beirdd, Rhydyfelin
- Rhodfa Bryn-glas, Aberaman
- Stryd yr Eglwys, Aberdâr
- Teras Morgannwg Gilfach Goch
- Ffordd y Goedwig, Trenant
- Llys Brynderwen, Glynrhedynog
- Maes David, Llanharan
- Clos Sant Pedr, Llanharan
- Rhodfa Aron Sant, Llanharan
- Cilgant Sant Iŵl, Llanharan
- Cwrt Fforest, Aberpennar
- Stryd y Carw Coch, Trecynon
- Maes Clive, Trecynon
- Clos Glyncornel, Llwynypia
- Stryd Cadwaladr, Aberpennar
- Heol Gelliwion, Pontypridd
- Bryn y Rhosyn Coch, Ystrad
- Teras Horeb, Llwydcoed
- Rhes y Lewis Arms, Penrhiwfer
- Rhodfa Richmond, Hirwaun
Un yn mynd rhagddo
Pedwar cynllun newydd (2024/25)
- (oddi ar) Teras Bronallt, Abercynon
- (oddi ar) Heol Brynmair, Godreaman
- Clos y Berllan, Porth
- Heol Graig , Ynys-hir
Roedd rhaglen beilot y Cyngor yn 2021/22 hefyd yn cynnwys cyflawni cynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn Belle Vue yn Nhrecynon, a gyfrannodd at astudiaeth beilot ehangach ar ffyrdd heb eu mabwysiadu sy'n cael ei gynnal ledled Cymru.
Wedi ei bostio ar 02/04/24