Mae gwaith wrthi'n cael ei gynnal i wella cyfleusterau i gerddwyr yn y strydoedd ger Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi – a hynny er mwyn ategu'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol.
Mae adeilad newydd, modern yn cael ei adeiladu ar safle presennol yr ysgol a bydd yn barod ar gyfer mis Medi 2024. Bydd y datblygiad ehangach yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwarae a maes parcio.
Mae'r buddsoddiad yma'n cael ei gyflawni gan y Cyngor ar y cyd â Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru, a hynny o fewn Band B o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Ochr yn ochr â'r datblygiad sylweddol yma, mae rhagor o gyllid wedi'i sicrhau i wella'r llwybr cerdded diogel lleol i'r ysgol.
Dechreuodd gwaith i gyflawni'r gwelliannau yma i'r gymuned yn ystod wythnos 8 Ebrill a bydd yn dod i ben yn yr haf.
Bydd gwaith nodweddiadol yn cynnwys gosod palmant botymog, cael gwared ar unrhyw beryglon megis cyrbau, lleihau radiws cyffyrdd i leihau cyflymder cerbydau, a gosod wyneb newydd ar ffordd/llwybr troed lle bydd angen.
Bydd trigolion yn dechrau gweld gwaith yn cael ei gynnal ar gyfanswm o 10 stryd, a bydd y gwaith yn amrywio ym mhob lleoliad.
Mae'r strydoedd yn cynnwys Heol y Siartwyr, Clos Hereford, Clos Lancaster, Clos Leland, Llys Derwen, Cilgant Burgesse, Coedlan Despenser, Clos y Portref, Heol Caerdydd a Rhodfa Bryn y Gorllewin.
Wedi'i ariannu gan y Cyngor, bydd y cynllun yma'n cael ei gyflawni gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT.
Er y bydd angen rhai cyfyngiadau ar lwybrau troed, bydd llwybr i gerddwyr ar gael ar bob adeg. Fydd unrhyw waith allai aflonyddu ddim yn cael ei gynnal yn ystod cyfnodau prysuraf y bore na'r prynhawn.
Mae'n bosibl y bydd mannau storio offer yn cael eu creu mewn lleoliadau lle bydd angen, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 10/04/2024