Skip to main content

Gwaith i ddatrys problem ar ran o ffordd rhwng Glyn-coch ac Ynys-y-bwl

B4273 Glyncoch to Ynysybwl - Copy

Bydd cynllun i drwsio'r ffordd gerbydau ar y B4273 rhwng Glyncoch ac Ynysybwl yn dechrau wythnos nesaf. Bydd dim angen y goleuadau traffig dros dro ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.

Yn dilyn adroddiad o holltau yn y ffordd gerbydau, cafodd y goleuadau dros dro eu gosod fel mesur diogelwch i leihau'r llwyth ar wal yr afon gyfagos.

Mae’r mater wedi cael ei ymchwilio ers hynny ac mae cynllun i ddatrys y broblem. Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 8 Ebrill ac yn para naw wythnos.

Bydd gwaith dros dro yn cael ei wneud i ddechrau a fydd yn caniatáu i draffig deithio i'r ddau gyfeiriad drwy gydol y cynllun. Bydd mynediad yn cael ei gynnal i gerddwyr hefyd.

Yna bydd y prif brosiect yn gosod trawst ymyl concrit wedi'i gastio ymlaen llaw i gynnal y ffordd gerbydau, a fydd yn cael ei ddiogelu trwy osod ebillion i mewn i'r graig.

Tua diwedd y cynllun, bydd yr holl ddraenio, cyrbiau, marciau ffordd, arwyddion, leinin ac ymylon priffyrdd yn cael eu hadfer.

Bydd y gwaith ail-wynebu terfynol i'r ffordd gerbydau hefyd yn cael ei gynnal. Bydd angen cau'r ffordd – bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn nes at yr amser.

Mae’r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths Ltd fel y contractwr i gyflawni’r cynllun. Ariennir y gwaith drwy raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith yn dilyn Storm Dennis.

Diolch i ddefnyddwyr y ffyrdd ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y cynllun yma a fydd yn trwsio'r difrod yn y lleoliad.

Wedi ei bostio ar 05/04/24