Mae Cynllun Placiau Glas Rhondda Cynon Taf yn dathlu treftadaeth y Fwrdeistref Sirol drwy osod placiau glas sy'n coffáu pobl sydd wedi cyfrannu at hanes yr ardal ar adeiladau lle'r oedden nhw'n gweithio, byw neu berfformio.
Cafodd dau blac glas eu dadorchuddio yn Rhondda Cynon Taf fis yma er mwyn coffáu dau unigolyn haeddiannol.
Cafodd y plac cyntaf ei ddadorchuddio ar 9 Awst, lle'r oedd wedi'i gyflwyno er cof y bardd a'r Gweinidog Anghydffurfiol Edward Evan. Mae'r plac wedi'i leoli yng Nghlwb Golff Aberpennar, sef safle ei gyn-gartref, Fferm Ton Coch.
Ganed Edward Evan yn 1716 ar fferm fach yn Llwydcoed, sy'n cael ei adnabod fel Penyrallt, lle mae Tregibbon wedi'i leoli heddiw. Dechreuodd farddoni fel bachgen ifanc a dysgodd i ganu'r delyn, gan berfformio mewn gwyliau lleol a phriodasau. Roedd yn brentis i Lewis Hopkin, ffigwr arweiniol ymysg beirdd Morgannwg y dysgodd waith coed, gwydro a rheolau barddoniaeth draddodiadol oddi wrtho. Honnodd Iolo Morgannwg, a gafodd ei ddysgu ganddo, mai ef ac Edward Evan oedd disgynyddion olaf beirdd derwyddol Cymru. Yn y ganrif ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddwyd barddoniaeth Edward Evan bedair gwaith a bu'n boblogaidd yn nhrefi haearn a glo newydd ddiwydiannu Aberdâr a Merthyr.
Rhwng 1772 a 1796 bu'n Weinidog yn yr Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon.
Dadorchuddiwyd y plac glas gan y Parchedig Eric Jones, gydag areithiau gan yr Arglwydd Aberdâr, llywydd Cymdeithas Hanes Cwm Cynon, yr haneswyr lleol David L Davies a James Stewart, Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Dan Owen-Jones a Vicki Howells AS. Roedd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, yn bresennol yn y ddau achlysur.
Mae'r ail o blaciau glas mis Awst ar gyfer Clic y Bont - Cylch Dathlu Beirdd a Cherddorion y 19eg Ganrif a gwrddai yn y Llanover Arms, Pontypridd. Dadorchuddiwyd y plac yn y Llanover Arms gan Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Dan Owen-Jones gyda Chor Meibion Pontypridd yn darparu adloniant cerddorol.
Felly, beth oedd Clic y Bont? Arweinodd gweithgarwch diwylliannol a ddatblygodd ym Mhontypridd yn y 19eg ganrif, at ffurfio Clic y Bont – neu'r Bridge Clique – a oedd yn cynnwys unigolion dylanwadol a thalentog Pontypridd o bob cefndir. Darparodd Clic y Bont ffocws angenrheidiol a hunaniaeth llenyddol i Bontypidd. Cafodd y grŵp lawer o sylw, yn enwedig yng nghylchoedd Barddol De Cymru a mudiad yr Eisteddfod yn gyffredinol.
Meddai'r Cynghorydd Dan Owen-Jones, Maer Rhondda Cynon Taf:
"Mae'r cynllun Plac Glas yn hanfodol i goffáu treftadaeth gyfoethog ein bwrdeistref sirol. Mae bob amser yn anrhydedd bod yn rhan o ddadorchuddio placiau glas a rhannu straeon y bobl a'r achlysuron y tu ôl i'r placiau. Mae'n addas iawn bod y ddau blac glas hyn yn coffáu beirdd a cherddorion gan eu bod nhw'n cael eu dadorchuddio yn ystod yr wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cynhaliwyd yr achlysur diwylliannol mwyaf yn Ewrop yma yn Rhondda Cynon Taf".
Carfan Treftadaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n rheoli'r cynllun Plac Glas ac yn derbyn enwebiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae modd cysylltu â'r garfan drwy e-bostio GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cynllun a sut i wneud enwebiad.
Wedi ei bostio ar 20/08/24