Mae gwaith atgyweirio hanfodol i unioni'r difrod i strwythur wal gynnal y briffordd ar Ffordd Merthyr (A4054), Pontypridd, bellach wedi dechrau.
Mae'r Cyngor wedi penodi Hammond ECS Ltd i ymgymryd â'r gwaith o ddydd Iau, 12 Chwefror. Disgwylir i'r gwaith bara tair wythnos.
Bydd y cynllun yn cynnwys atgyweirio rhan o’r wal barapet sydd wedi'i difrodi, lle mae llystyfiant wedi disodli'r cerrig copa. Mae'r gwaith pwyntio ar gefn y wal hefyd wedi'i effeithio.
Bydd angen gosod a symud sgaffaldiau yn rhan o'r gwaith, yn ogystal â gosod goleuadau traffig i'r ddau gyfeiriad ar Ffordd Merthyr ar ddechrau a diwedd y cynllun. Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd angen unrhyw fesurau rheoli traffig pellach y tu hwnt i'r mesurau yma.
Bydd mynediad i gerddwyr hefyd yn cael ei gynnal drwy gydol y gwaith a bydd llwybr troed yn cael ei gulhau yn yr ardal gyfagos er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Mae cyllideb refeniw'r Cyngor yn ariannu'r cynllun yma.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 12/02/2026