Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi agor dau gyfleuster addysg newydd mawr yn swyddogol - Ysgol Afon Wen yn y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun - gan felly gwblhau buddsoddiad sylweddol a gafodd ei wneud mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Cafodd y ddwy ysgol eu hagor yn ffurfiol ddydd Iau 12 Chwefror, gyda Lynne Neagle MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn ymuno â disgyblion, staff, llywodraethwyr, contractwyr a chynrychiolwyr y Cyngor i ddathlu'r garreg filltir.
Ysgol Afon Wen: Ysgol Newydd i'r Gymuned ar gyfer Disgyblion 3–16 Oed
Mae Ysgol Afon Wen wedi bod yn elwa o'i hamgylchedd dysgu modern ers mis Medi 2024, gan groesawu disgyblion o hen Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen a ffrwd cyfrwng Saesneg Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn.
Cyflawnwyd y datblygiad gan Kier ar draws tair prif gyfnod:
- Cam Un (2023): Adeiladu Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) newydd, prif faes parcio a pharthau gollwng disgyblion ar gyfer bysiau.
- Cam Dau: Cyflwyno bloc addysgu newydd gyda 28 o ystafelloedd dosbarth ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2-4, gwella adeiladau presennol, a gwelliannau i ardaloedd dysgu awyr agored.
- Cam Tri (wedi'i gwblhau Ebrill 2025): Dymchwel blociau hen ffasiwn, creu ail Ardal Gemau Aml-ddefnydd, ystafell ddosbarth awyr agored, parcio ychwanegol, gwaith tirlunio helaeth, ac ail-wynebu cae astroturf yr ysgol - wedi'i ariannu ar y cyd gan Chwaraeon Cymru a'r Cyngor.
Ym mis Ionawr 2025, croesawodd yr ysgol hefyd Blossom Early Years, cyfleuster Dechrau'n Deg a Chynnig Gofal Plant newydd ar gyfer plant 2-5 oed. Mae'r lleoliad yn cynnwys ystafell chwarae gyda’r holl gyfleusterau, cegin paratoi bwyd, ystafell gotiau, toiledau meithrinfa a man chwarae awyr agored diogel.
Seremoni Agor Swyddogol
Roedd yr achlysur agoriadol yn Ysgol Afon Wen yn cynnwys:
- Croeso cynnes gan y disgyblion a'r Pennaeth, Mrs Claire Crockett.
- Areithiau gan Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd Cabinet y Senedd dros Addysg, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Maureen Webber BEM, a’r contractwr Kier Construction.
- Dadorchuddio'r plac swyddogol.
Dywedodd Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales:
Mae'r prosiect yma wedi rhoi'r cyfle i ni i greu cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf yn Hawthorn, ac mae'n wych gweld staff a disgyblion yn eu mwynhau. Rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaeth gref a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn falch iawn o fod yn adeiladu ar y berthynas yma wrth i ni barhau i weithio gyda'n gilydd yn y misoedd nesaf.
Ysgol Gynradd Pont-y-clun: Amgylchedd Dysgu Modern, Sero-Net
Mae Ysgol Gynradd Pont-y-clun bellach yn mwynhau ei hadeilad newydd o'r radd flaenaf, a gafodd ei gwblhau ym mis Mawrth 2025. Cafodd yr adeilad ei gynllunio i fod yn Garbon Sero-Net, gan gefnogi ymrwymiadau hinsawdd y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Mae'r ysgol ddeulawr newydd yn darparu lle i 480 o ddisgyblion ynghyd â lleoedd yn y dosbarth meithrin, ac mae'n cynnwys:
- Man canolog
- Ystafelloedd Dosbarth, o'r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6
- Neuadd fawr a mannau dysgu ategol
Ar ôl cwblhau'r gwaith ar y prif adeilad, cyflawnodd y contractwr Morgan Sindall Gam Dau, gan drawsnewid yr ardaloedd allanol.
Roedd y cam yma'n cynnwys:
- Cael gwared ar adeiladau dros dro ac adeiladau hŷn
- Ardal Gemau Aml-ddefnydd dau gwrt newydd
- Mannau chwarae caled a meddal
- Ystafell ddosbarth awyr agored a mannau eistedd
- Maes parcio i staff ac ymwelwyr
- Offer chwarae newydd
Cafodd y buddsoddiad yma ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sy'n rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Seremoni Agor Swyddogol
Roedd y dathliad yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn cynnwys yr holl ddisgyblion, a berfformiodd ganeuon a darlleniadau barddoniaeth. Cafodd fideo o'r gwaith adeiladu ei ddangos hefyd, a rhoddodd y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd & Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, a Lynne Neagle AS, areithiau. Daeth y seremoni i ben gyda seremoni dadorchuddio plac er mwyn coffáu'r achlysur ac aeth pawb ar daith o amgylch yr ysgol.
Mae'r ddau ddatblygiad blaenllaw yma'n cynrychioli carreg filltir bwysig i addysg yn Rhondda Cynon Taf a buddsoddiad sylweddol mewn amgylcheddau dysgu modern o ansawdd uchel i blant a phobl ifainc ledled y fwrdeistref sirol. Mae'r Cyngor yn diolch i'r holl gontractwyr, partneriaid, staff, disgyblion a theuluoedd a gyfrannodd at gyflawni'r prosiectau yma'n llwyddiannus.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd & Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor:
Mae'r cyfleusterau newydd gwych ymayn Ysgol Afon Wen ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn gam mawr ymlaen i addysg yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni wedi ymrwymo i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, a bydd yr amgylcheddau dysgu modern ac ysbrydoledig yma o fudd i ddisgyblion, teuluoedd a staff am genedlaethau i ddod. Mae wedi bod yn hyfryd dathlu’r cyfleusterau newydd yma ochr yn ochr â chymunedau’r ysgolion, sydd wedi dangos cymaint o falchder, brwdfrydedd a chyffro dros eu hysgolion newydd.
Mae darparu cyfleusterau newydd a modern ar gyfer ysgolion yn rhan enfawr o fuddsoddiad Trawsnewid RhCT. Mae naw prosiect mawr yn cael eu datblygu i'w cyflawni yn 2026 a thu hwnt, yn rhan o ymrwymiad ariannu gwerth £414 miliwn dros naw mlynedd.
Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am brosiectau buddsoddi mewn ysgolion yma.
Wedi ei bostio ar 13/02/2026