Dyma roi gwybod i drigolion y bydd gweithgarwch cychwynnol yn dechrau'r wythnos nesaf yn Ffordd y Rhigos a Stryd Abertonllwyd, Treherbert, yn rhan o gamau nesaf y gwaith lliniaru llifogydd.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni cam cyntaf ei waith i dargedu'r ardal yma, a gafodd ei heffeithio gan lifogydd yn ystod Storm Bert ac sy'n parhau i ddioddef llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae'r Cyngor hefyd yn datblygu ail gam y gwaith, ac mae rhagor o fanylion isod.
Bydd y gwaith sy'n rhan o'r cam cyntaf yn mynd rhagddo wrth ffynhonnell y llifogydd, sydd ar dir preifat ger y garej oddi ar Ffordd Rhigos. Nod y gwaith yma fydd gwella mewnfa'r cwlfert a chyflwyno system basn malurion, gyda'r bwriad o leihau gorlif a llifogydd. Mae disgwyl i'r cam yma ddechrau ym mis Mawrth 2026, a bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r gwaith maes o law.
Er mwyn dylunio a datblygu'r ail gam, bydd angen cynnal cyfres o ymchwiliadau tir o ddydd Llun, 23 Chwefror. Bydd hyn yn digwydd dros bythefnos, dan ofal y contractwr Hammonds ECS Ltd.
Mae'n debyg y bydd y cam yma o'r gwaith yn y dyfodol yn cynnwys gosod strwythur cwlfert newydd yn Ffordd y Rhigos a Stryd Abertonllwyd, i ailgyfeirio llif y dŵr o'r cwlfert presennol sydd wedi'i ddifrodi.
Y bwriad yw cyflawni'r ail gam yn 2026/27, yn amodol ar sicrhau cyllid o dan y Grant Gwaith ar Raddfa Fach ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27.
O ddydd Llun ymlaen, bydd tyllau prawf yn cael eu defnyddio i nodi lleoliad a dyfnder y gwasanaethau cyfleustodau presennol ar y stryd, a fydd yn hanfodol i lywio'r llwybr arfaethedig ar gyfer cwlfert newydd.
Bydd angen cau lôn i fwrw ymlaen â'r gwaith ymchwil yma'n ddiogel, gyda goleuadau traffig dwyffordd ar waith. Bydd lleoedd parcio i drigolion hefyd yn gyfyngedig – mae aelwydydd lleol wedi derbyn llythyr yn egluro'r trefniadau dros dro. Yn ogystal â hynny, fydd dim mynediad i gerbydau o Stryd y Bryn i Stryd Abertonllwyd, gydag arwyddion yn dangos y llwybr dargyfeirio lleol.
Mae gwaith y cam cyntaf yn cael ei ariannu gan ddefnyddio cyfraniad o 85% o Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, gyda 15% o gyllid cyfatebol gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2025/26 a hynny trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 19/02/2026