Mae'r Cyngor wedi cwblhau buddsoddiad pwysig yn ddiweddar mewn perthynas â'r ganolfan ieuenctid a'r cyfleusterau hamdden yn Y Ddraenen-wen. Mae modd i'r ysgol a'r gymuned fanteisio ar y buddsoddiad yma.
Cafodd y gwaith buddsoddi mawr yn yr ysgol 3-16 oed newydd, Ysgol Afon Wen, ei gwblhau cyn dechrau blwyddyn academaidd 2024/25 a chafodd gwaith gwella allanol ei gwblhau ym mis Mai 2025.
Mae'r Cyngor wedi defnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a rhaglen gyfalaf Ysgolion Bro i adnewyddu'r ganolfan ieuenctid. Mae hefyd wedi sicrhau cyfraniad gan Chwaraeon Cymru i wella'r ystafelloedd newid ar y safle.
Mae'r ganolfan ieuenctid newydd (sydd i'w gweld yn y lluniau yn y rhes uchaf a'r rhes ganol) bellach yn defnyddio adeilad sydd wedi'i ailfodelu, ac wedi elwa o gyfleusterau newydd o'r radd flaenaf. Mae hanner yr adeilad wedi'i neilltuo fel ardal fwyta ychwanegol ar gyfer yr ysgol. Bydd hanner arall yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned, ac yn cael ei reoli gan yr ysgol.
Bydd yr ystafelloedd newid allanol newydd (sydd i'w gweld yn y llun yn y rhes waelod) yn cael eu defnyddio gan ddisgyblion yn ystod y diwrnod ysgol, a bydd modd i'r rheiny sy'n defnyddio'r cyfleusterau chwaraeon ar y safle eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. Cafodd wyneb newydd ei osod ar y cae chwaraeon 'astroturf' yn rhan o fuddsoddiad y llynedd.
Mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru bellach yn canolbwyntio ar y gyfran nesaf o brosiectau buddsoddi mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd naw prosiect pellach yn derbyn cyllid yn rhan o'n hymrwymiad ariannu ar y cyd gwerth £414 miliwn dros y blynyddoedd nesaf - ac mae disgwyl i'r ysgol ADY newydd yng Nghwm Clydach (Ysgol Cambrian) a'r ysgol gymunedol gynaliadwy ar gyfer ardal Glyn-coch (Ysgol Gynradd Glyn-coch) agor yn ddiweddarach eleni.
Mae contractwyr hefyd wedi cael eu penodi ar gyfer datblygiadau yn Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Llanhari ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Ym mis Chwefror 2026, cafodd cymuned Ynys-y-bwl gyfle i ddysgu rhagor am y buddsoddiad cyffrous sydd ar y gweill ar gyfer Buarth y Capel, safle lloeren Ysgol Tŷ Coch, yn ystod achlysur lleol.
Wedi ei bostio ar 12/02/2026