Mae'r gwanwyn ar ei ffordd, ac mae hynny’n golygu un peth yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda... mae achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg yn dychwelyd ar gyfer 2026!
Bydd yr achlysur poblogaidd i deuluoedd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 1 a dydd Iau 2 Ebrill, gan ddechrau calendr achlysuron yr Awdurdod Lleol ar gyfer y flwyddyn gyda deuddydd llawn hwyl ar thema'r Pasg i blant a theuluoedd ei fwynhau yn ystod gwyliau'r ysgol.
Gall ymwelwyr edrych ymlaen at ystod o weithgareddau wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn, gan gynnwys:
- Helfa Wyau Pasg - ewch i chwilio am wyau enfawr Bwni'r Pasg sydd wedi'u cuddio ar safle’r amgueddfa. Cwblhewch yr helfa ac ewch i gasglu ŵy siocled!
- Cartref Tanddaearol Bwni'r Pasg - ewch dan ddaear i gartref Bwni'r Pasg cynifer o weithiau ag yr hoffech chi...
- Reidiau i Blant - mae reidiau bach sy'n addas i blant iau wedi'u cynnwys.
- Crefftau'r Pasg - ewch i gymryd rhan yn y gweithgareddau creadigol.
- Fferm Anwesu Anifeiliaid - bydd ffefryn pawb yn dychwelyd yn 2026. Dyma gyfle i chi weld anifeiliaid y gwanwyn! Dewch i ddysgu beth yw hoff fwyd cwningen a siaradwch â gweithwyr ymroddedig y fferm sy’n magu'r anifeiliaid yma.
Pris tocynnau achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg yw £12.50 fesul plentyn a £3.50 fesul oedolyn sy'n dod gyda nhw, gyda ffi archebu o £1 ar gyfer pob archeb (nid pob tocyn). Mae tair sesiwn ar gael bob dydd: 10am–12pm, 12.30pm–2.30pm, a 3pm–5pm.
Mae tocynnau ar werth nawr, rydyn ni'n annog teuluoedd i brynu eu tocynnau yn gynnar cyn i bob un werthu!
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau: "Mae achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg yn ffordd wych o ddechrau ein rhaglen achlysuron ar gyfer eleni ac mae teuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol yn hoff iawn ohono. Bydd yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r ysgol, a bydd yn cynnig diwrnod o hwyl i'r plant wrth ddangos popeth sydd gan Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda i'w gynnig. Mae'r lleoliad yn parhau i fod yn atyniad ymwelwyr allweddol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, gyda llawer o bobl yn dychwelyd drwy gydol y flwyddyn ar gyfer calendr llawn ein hachlysuron, gan gynnwys y Sioe Ceir Clasurol, Rhialtwch Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn."
Am ragor o wybodaeth am achlysuron yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/achlysuron
Cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook trwy ddilyn @rhonddaheritagepark ac @besymlaenrhct
Wedi ei bostio ar 19/02/2026