Skip to main content

Cyllid ychwanegol wedi'i gynnig ar gyfer gwasanaethau allweddol a meysydd buddsoddi o flaenoriaeth

Investment priorities

Bydd y Cabinet yn trafod rhaglen gyfalaf arfaethedig y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf yn fuan. Yn ogystal, bydd yr Aelodau'n ystyried buddsoddiad untro o £19.38 miliwn ar gyfer meysydd o flaenoriaeth ar gyfer 2026/27, a fyddai'n mynd y tu hwnt i'r rhaglen gyfalaf arferol.

Byddai'r cyllid ychwanegol yma'n buddsoddi rhagor mewn blaenoriaethau megis priffyrdd, ffyrdd heb eu mabwysiadu, strwythurau, gwaith lliniaru llifogydd, parciau a mannau gwyrdd, canolfannau hamdden, seilwaith ysgolion a gosod diffibrilwyr ar safleoedd ysgolion – ynghyd â dyraniad ychwanegol i ddatblygu Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan.

Mae'r buddsoddiad yma'n cael ei gynnig ochr yn ochr â strategaeth cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27, sy'n cynnwys dim toriadau i wasanaethau, un o'r lefelau isaf o gynnydd yn Nhreth y Cyngor ledled Cymru, ac sy'n cynnig cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion a chynnydd yn lefel rhyddhad ardrethi annomestig lleol y Cyngor ar gyfer busnesau.

Bydd adroddiad swyddog i'r Cabinet ddydd Llun 23 Chwefror yn nodi manylion y rhaglen gyfalaf tair blynedd arfaethedig, sy'n cynnwys cyllid o fwy na £190 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor rhwng 2026/27 a 2028/29. Mae hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf craidd wedi'i hariannu'n llawn gwerth £47.1 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Efallai y bydd Aelodau'r Cabinet yn argymell bod Aelodau Etholedig yn cytuno ar y rhaglen yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar 4 Fawrth.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi cyfle buddsoddi untro pellach ar gyfer 2026/27, sef cyfanswm gwerth £19.38 miliwn, y byddai modd ei fuddsoddi yn y meysydd blaenoriaeth canlynol:

  • Cynnal y priffyrdd – £5.5 miliwn
  • Ffyrdd heb eu mabwysiadu – £200,000
  • Strwythurau priffyrdd – £4 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan – £2 filiwn
  • Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell / Datblygiadau Traffig – £100,000
  • Lliniaru llifogydd – £750,000
  • Ysgubor halen – £150,000.
  • Gwaith gwella strwythurau parciau – £250,000
  • Parciau a mannau gwyrdd – £2 filiwn
  • Parciau sglefrio – £350,000
  • Mannau chwarae – £500,000
  • Ardaloedd gemau aml-ddefnydd – £230,000
  • Canolfannau hamdden – £1 filiwn.
  • Cofebion rhyfel – £50,000.
  • Gwelliannau i seilwaith ysgolion – £2 filiwn.
  • Diffibrilwyr ar safleoedd ysgolion – £100,000.
  • Datblygiadau sydd yn yr arfaeth yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf – £200,000.

Byddai'r buddsoddiad ychwanegol yma'n cael ei gyflawni'n bennaf trwy ddefnyddio cyllid sydd ar gael o gronfa Buddsoddi/Seilwaith sydd wedi'i chlustnodi i gynnal a gwella seilwaith ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen gyfalaf tair blynedd arfaethedig a'r cyllid ychwanegol ar gyfer meysydd o flaenoriaeth ar gael yn adroddiad y Cabinet.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r rhaglen gyfalaf dreigl tair blynedd yn gosod y fframwaith i gyflwyno buddsoddiad rheolaidd a sylweddol ar gyfer ein gwasanaethau allweddol ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae ein rhaglen tua phum gwaith yn fwy na'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl, gyda'r cynigion tair blynedd diweddaraf gwerth tua £190 miliwn hyd at 2028/29 – cyllid sy'n dod o'n cyllideb gyfalaf graidd ynghyd â grantiau penodol.

"Rydyn ni wedi nodi buddsoddiad ychwanegol y tu hwnt i'n rhaglen gyfalaf unwaith eto, gyda swyddogion yn cynnig dyraniad o £19.38 miliwn ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor yn 2026/27. Y llynedd fe wnaethon ni fuddsoddi £16 miliwn, cyn buddsoddi £11.5 miliwn ychwanegol o fis Medi 2025. Os bydd Aelodau'r Cabinet yn cytuno ar y cynigion diweddaraf ddydd Llun, bydd gwerth ein buddsoddiad cyffredinol yn y maes yma tua £235 miliwn ers 2015.

"Byddai'r cynigion newydd yn dyrannu £5.5 miliwn i gynnal a chadw ffyrdd lleol, wrth i ni barhau â'n dull cyflym sydd wedi gweld gostyngiad parhaus yng nghanran y lleoliadau sydd angen eu hatgyweirio. Dros y pum mlynedd diwethaf rydyn ni hefyd wedi gwella a mabwysiadu 35 o ffyrdd preifat sydd mewn cyflwr annerbyniol, ac mae £200,000 ychwanegol wedi'i gynnig i ddatblygu cynlluniau newydd. Byddai'r dyraniad o £4 miliwn ar gyfer strwythurau yn helpu i barhau i gynnal a chadw ac atgyweirio seilwaith fel pontydd a waliau sy'n cynnal ein rhwydwaith ffyrdd.

"Byddai'r cyllid arfaethedig ar gyfer Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn parhau i ddatblygu'r cynllun mawr yma, i greu coridor trafnidiaeth newydd a llwybr teithio llesol. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yr hydref a fydd yn llywio ein cynnig cynllunio sydd ar ddod. Mae swyddogion hefyd wedi cynnig bod £750,000 ychwanegol yn cael ei glustnodi ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd. Bydd hyn yn ategu cyllid mawr Llywodraeth Cymru yn y maes yma, i ddatblygu rhagor o gynlluniau lliniaru llifogydd ac uwchraddio seilwaith er mwyn ymateb i newid yn yr hinsawdd.

"Mae buddsoddiad pwysig o £2 filiwn hefyd wedi'i gynnig ar gyfer ein parciau a'n mannau gwyrdd, ynghyd â dros £2 filiwn ar gyfer parciau sglefrio, mannau chwarae, ardaloedd gemau aml-ddefnydd a'n canolfannau hamdden. Mae cynnig £2 filiwn arall ar gyfer gwelliannau i seilwaith ysgolion, wrth i ni sicrhau bod ein hysgolion yn parhau i fod yn ddiogel, yn dal dŵr ac yn gynnes gyda rhaglen o waith sydd fel arfer yn cael ei chynnal yn ystod gwyliau'r haf. Yn olaf, mae cynnig cyllid o £100,000 tuag at ein hymrwymiad i osod diffibriliwr ym mhob un o'r 113 o safleoedd sydd gan ein hysgolion, ar gael i'r gymuned bob awr o bob dydd lle bo modd."

Wedi ei bostio ar 19/02/2026