Skip to main content

Buddsoddiad a gefnogir gan y Cyngor yn dod â 27 o gartrefi fforddiadwy newydd i Ben-y-graig

Clos yr Ysgol Site

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cefnogi'r gwaith o ddarparu 27 o gartrefi newydd fforddiadwy ac ynni-effeithlon ar hen safle Ysgol Iau Pen-y-graig, gan nodi pennod newydd i leoliad cymunedol adnabyddus.

Mae'r datblygiad, a elwir bellach yng Nghlos Yr Ysgol, wedi croesawu ei denantiaid cyntaf ym mis Ionawr 2026. Mae'r safle, a fu'n wag ers cau'r ysgol yn 2018, wedi'i drawsnewid yn gartrefi o ansawdd uchel sydd â'r nod o ddiwallu'r angen lleol am dai.

Mae'r cynllun wedi cael ei gyflwyno gan Trivallis gyda chefnogaeth ariannol gan Grant Tai Cymdeithasol (SHG) Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei reoli'n lleol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Drwy ei rôl yn gweinyddu cyllid Grant Tai Cymdeithasol, mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i nodi safleoedd blaenoriaeth a sicrhau bod datblygiadau newydd yn ymateb yn uniongyrchol i'r galw am dai ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol yn helpu i ddarparu cartrefi cynnes, diogel ac effeithlon o ran ynni, boed drwy gynlluniau adeiladu newydd neu adnewyddu eiddo presennol. Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r rhaglen yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno datblygiadau sy'n darparu tai fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a'r rhai sydd angen llety wedi'i addasu.

Ymunodd Cynghorwyr, Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Senedd â chynrychiolwyr o Trivallis i ymweld â’r datblygiad cyn i denantiaid symud i mewn, gan weld â’u llygaid eu hunain sut mae safle’r hen ysgol wedi’i adfywio er budd pobl leol.

Mae cartrefi yng Nghlos Yr Ysgol wedi cael eu dyrannu yn unol â'r angen tai a nodwyd yn Rhondda Cynon Taf, gan sicrhau bod trigolion yn cael eu paru ag eiddo sy'n addas i'w hamgylchiadau. Mae'r cymysgedd o gartrefi wedi'i gynllunio'n ofalus i gefnogi amrywiaeth o aelwydydd a hyrwyddo tenantiaethau sefydlog, hirdymor yng nghanol y gymuned.

Yn ogystal â darparu cartrefi newydd, mae'r cynllun wedi cefnogi manteision er budd y gymuned ehangach ym Mhen-y-graig.

Drwy gyllid budd cymunedol sy'n gysylltiedig â'r gwaith adeiladu, mae £15,000 wedi'i ddarparu i drigolion lleol benderfynu sut y dylid ei wario yn eu hardal, a hynny drwy'r fenter 'Penygraig Decides'. Mae'r dull yma'n grymuso pobl leol i gyflwyno syniadau, clywed cynigion prosiect a phleidleisio o blaid y mentrau sydd bwysicaf iddyn nhw.

Drwy unioni datblygu tai â buddsoddiad dan arweiniad y gymuned, mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn helpu i atgyfnerthu cysylltiadau lleol a sicrhau bod gwaith adfywio yn sicrhau manteision parhaol y tu hwnt i godi tai.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Adfywio a Thai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae'n wych gweld datblygiad Clos Yr Ysgol yn cael ei gwblhau. Am ddechrau gwych i 2026 i'r trigolion sydd ar fin symud i'r cartrefi modern, ynni-effeithlon yma.

“Mae’r prosiect yma wedi helpu i adfywio safle adnabyddus a phoblogaidd ym Mhen-y-graig ac mae’n darparu cymysgedd gwych o gartrefi sydd wedi’u lleoli yng nghanol y gymuned, sy’n golygu bod trigolion wedi’u cysylltu’n well â’u stryd fawr leol, gwasanaethau lleol, a thrafnidiaeth gyhoeddus i'w cludo hwnt ac yma.

"Mae cynlluniau fel yr un yma yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i'n trigolion yn Rhondda Cynon Taf i ddarparu tai fforddiadwy o safon. Mae modd i ni wneud hyn trwy'r Grant Tai Cymdeithasol.

“Nid yw'n gyfrinach bod y DU yng ngafael argyfwng tai, gyda Rhondda Cynon Taf yn wynebu problemau tebyg i weddill y DU. Mae sicrhau mynediad at dai fforddiadwy ac o ansawdd da yn flaenoriaeth i ni, a byddwn ni'n parhau i ddarparu cyllid ar gyfer datblygiad tai y mae galw mawr amdanyn nhw.

“Rydyn ni'n falch o gefnogi Trivallis, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wrth gyflawni'r prosiect llwyddiannus iawn yma, ac mae pawb yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno’r gorau i’r trigolion newydd ar gyfer y dyfodol.”

Meddai Sarah Davies, Rheolwr Datblygu Trivallis: “Mae trawsnewid hen safle Ysgol Pen-y-graig wedi bod yn fraint a hanner. Y datblygiad yma yw ein cynllun cyntaf sydd heb nwy o gwbl ac mae'n cynrychioli cam pwysig ymlaen yn ein taith o ran lleihau carbon, tra hefyd yn cyflawni arbedion cost sylweddol i'r unigolion a'r teuluoedd a fydd yn byw yma.

“Rydyn ni'n arbennig o falch bod y cynllun nid yn unig yn cefnogi ein huchelgeisiau amgylcheddol, ond hefyd yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion tai lleol. Drwy gynnwys byngalos wedi'u haddasu a gweithio'n agos gyda'r garfan Dyrannu Tai, roedd modd i ni nodi darpar denantiaid yn gynnar a theilwra cartrefi i ddiwallu eu gofynion penodol.

“Roedd y prosiect yma'n ymwneud â mwy na dim ond adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol. Roedd e'n ymwneud â thrawsnewid safle o arwyddocâd hanesyddol lleol yn gymdogaeth groesawgar a chynaliadwy, lle gall pobl ffynnu go iawn.

“Trwy ddull blaengar o ddarparu cyllid er budd y gymuned, mae buddsoddiad o’r datblygiad yma bellach yn cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau sy'n bwysig i'r gymuned, ac edrychwn ymlaen at rannu canlyniadau’r buddsoddiad lleol yma maes o law.”

 

Wedi ei bostio ar 20/02/2026