Skip to main content

Gwaith atgyweirio wal afon wedi'i gwblhau mewn stryd yn Abercynon

River Row

Mae'r gwaith atgyweirio'r difrod i wal afon mewn stryd yn Abercynon bellach wedi'i gwblhau. Mae'r cynllun rheoli traffig wedi dod i ben hefyd.

Dechreuodd y gwaith angenrheidiol i atgyweirio rhan 5 metr o'r strwythur yn Rhes yr Afon ganol mis Ionawr 2026, ar ôl iddi gael ei difrodi gan stormydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae contractwr y Cyngor, Edwards Diving Services, bellach wedi cwblhau'r gwaith. Y peth olaf i'w wneud yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 9 Chwefror oedd tynnu sgaffaldiau o'r strwythur.

Yn rhan o'r gwaith, mae concrit wedi cael ei ychwanegu at waelod y wal i atgyweirio'r difrod o ganlyniad i erydiad. Mae hyn wedi creu sylfaen sefydlog er mwyn ailadeiladu'r strwythur gwaith maen.

Yn dilyn cwblhau'r gwaith mae'r cynllun rheoli traffig angenrheidiol a oedd wedi cynnwys cau'r ffordd yn Rhes yr Afon wedi dod i ben. Felly, erbyn hyn mae modd i gerbydau gael mynediad i'r stryd eto.

Cafodd y gwaith ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid cyfalaf y Cyngor sydd wedi'i neilltuo ar gyfer gwaith atgyweirio yn sgil stormydd.

Diolch i'r gymuned, ac yn enwedig trigolion Rhes yr Afon, am eich amynedd a'ch cydweithrediad tra bod y gwaith atgyweirio hanfodol wedi'i gyflawni'n lleol.

Wedi ei bostio ar 13/02/2026