Mae dysgwyr ar draws Rhondda Cynon Taf wedi bod yn derbyn eu canlyniadau UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau Uwch a chymwysterau galwedigaethol Lefel 3 heddiw (dydd Iau, 15 Awst), gyda llawer yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion i ddatblygu eu hastudiaethau addysgol.
Ymhlith y rhai a fu’n llongyfarch y dysgwyr llwyddiannus a staff yr ysgol roedd Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysant a’r Gymraeg, y Cynghorydd Rhys Lewis, a Chyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor, Gaynor Davies.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysant a’r Gymraeg: “Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch y dysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw.
“Heddiw, gallant elwa ar eu holl waith caled, a dymunaf yn dda iddynt oll wrth iddynt barhau â’u teithiau personol, naill ai mewn addysg bellach neu gyflogaeth.”
Dywedodd Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni eleni. Mae ein dysgwyr a’n hathrawon wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau’r canlyniadau hyn ac mae heddiw’n ddathliad o’r llwyddiannau a gyflawnwyd. Mae wedi bod yn hyfryd gweld cymaint o wynebau hapus yn ein lleoliadau addysgol heddiw. Os na wnaethoch gyflawni’r hyn yr oeddech wedi’i obeithio neu os ydych yn ansicr ynghylch y camau nesaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn ceisio cyngor ac arweiniad gan aelod o staff yr ysgol fel y gallwch sicrhau’r llwybr cywir ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r Cyngor yn cydnabod holl lwyddiannau cadarnhaol ysgolion a dysgwyr Rhondda Cynon Taf, gyda llawer yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion, lleoedd addysg bellach, prentisiaethau a chyfleoedd cyflogaeth. Mae hyn yn nodi dechrau pennod newydd gyffrous yn eu bywydau.
Mae rhagor o gymorth ar gael yma: Cefnogaeth i Fyfyrwyr CBAC
Wedi ei bostio ar 15/08/2024