Mae gwaith wrthi'n cael ei gynnal i osod leinin newydd yn y rhwydwaith cwlferi sydd o dan nifer o strydoedd yn ardal Tynewydd – disgwylir cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn ystod gwaith y cynllun.
Mae'r cwlfer wedi'i leoli o dan nifer o strydoedd lleol – gan gynnwys Teras Bryn Wyndham, Teras Blaen y Cwm, Teras Halifax, Heol Sant Alban (yn y llun) a Heol Blaen y Cwm.
Bydd y cynllun yn lliniaru diffygion strwythurol i'r cwlfer yn y rhwydwaith cyrsiau dŵr, gan helpu i ddarparu gwytnwch a gwella strwythur y cwlfer.
Bydd y gwaith atgyweirio yn lliniaru perygl llifogydd i oddeutu 19 o eiddo lleol.
Dechreuodd y gwaith o ddydd Llun 19 Awst, ac mae wedi'i ariannu gyda chyfraniad 85% o raglen Gwaith Graddfa Fach Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru.
Fydd dim angen cau ffordd a bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu defnyddio am gyfnodau byr er mwyn cael mynediad i'r tyllau archwilio yn y briffordd.
Mae'r Cyngor wedi penodi cwmni Arch Drainage yn gontractwr i gyflawni gwaith y cynllun, a fydd yn para tua chwe wythnos.
Diolch i gymuned Tynewydd am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith pwysig yma.
Wedi ei bostio ar 22/08/2024