Efallai bydd trigolion Cefnpennar yn sylwi ar waith yr wythnos nesaf wrth i ni ddechrau ar y cynllun gwella cwlferi pwysig.
Gan ddefnyddio cyllid o Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru, bydd y Cyngor yn dechrau ar y gwaith ddydd Llun, 19 Awst.
Bydd y gwaith yn cynnwys gwella mewnfeydd cwlferi, sydd ar dir i'r dwyrain o'r Goedlan ac i'r de-ddwyrain o Ffordd-Y-Dderwen.
Yn ogystal â hyn, bydd llwybr mynediad yn cael ei adeiladu i hwyluso gwaith cynnal a chadw'r cwlferi, a bydd gwaith gwella hefyd yn cael ei gynnal ar rwydwaith draenio tir lleol.
Bydd carfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf yn cynnal y gwaith law yn llaw â'r contractwr wedi'i benodi, Peter Simmons Construction.
Bydd y gwaith yn gwella pa mor gydnerth yw'r ardal leol o ran llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm. Y disgwyl yw bydd y cynllun wedi'i gwblhhau erbyn diwedd hydref 2024.
Bydd gweithwyr y contractwr yn mynd i'r safle gan ddefnyddio'r llwybr oddi ar y Goedlan.
Mae'n bosibl bydd gweithwyr yn mynd a dod llawer yn ystod oriau gwaith (8am-5pm).
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 14/08/24