Skip to main content

Gwaith priffyrdd ar lwybr ochr y mynydd rhwng Graig-wen a Llanwynno

roads two

Mae'r Cyngor wedi cael gwybod bydd ffordd y mynydd rhwng Graig-wen a Llanwynno (Heol Pen-y-Wal) ar gau o ddydd Mercher er mwyn cynnal gwaith hanfodol.

Bydd y ffordd ar gau rhwng pen uchaf Ffordd Graig-wen hyd at bwynt mwyaf gogleddol Heol Pen-y-Wal - at y gyffordd i'r de o Fferm Llysnant. Mae'r ardal fydd ar gau i'w weld ar y map canlynol.

Mae angen cau'r ffordd ar ran Fferm Wynt Llanwynno rhwng dydd Mercher, 14 Awst a dydd Gwener, 20 Medi.

Bydd y gwaith yn lledu'r ffordd mewn mannau penodol er mwyn cludo llwyth anarferol ei faint i'r fferm wynt yn y dyfodol.

Tra bydd y ffordd ar gau, dylai modurwyr ddefnyddio llwybr amgen ar hyd Teras y Graig, Heol Clydach, Maes Windsor, Stryd Robert. Heol Newydd, y B4273 Heol Ynysybwl, Heol Berw, Stryd Morgan, Heol Gelliwastad, Llwyn Gelliwastad, Stryd Thomas, Maes Graig-wen a Ffordd Graig-wen.

Bydd mynediad ar gael ar gyfer cerddwyr, a'r gwasanaethau brys yn ogystal â cherbydau trigolion a cherbydau fferm. Mae'r contractwr wedi rhoi gwybod bydd modd i feicwyr ddefnyddio rhan y ffordd sydd ar gau, ond dylid bod yn ofalus.

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r cau, e-bostiwch Knights Brown, contractwr Fferm Wynt Llanwynno ar talktous@knightsbrown.co.uk neu ffoniwch 01656 667601.

Diolch i gymunedau lleol a defnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 12/08/2024