Skip to main content

Lansio Llwybr Treftadaeth Newydd yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Heritage Trail Opening-6 (1)

Agorodd Llwybr Treftadaeth yn ailgysylltu metropolis glofaol byd-enwog â’i orffennol balch yng Nghwm Rhondda ddydd Iau 1 Awst.

John Geraint, cyfarwyddwr creadigol y prosiect:

Mae’r llwybr yn mynd ag ymwelwyr a thrigolion ar daith ryfeddol. Mae’n arwain at ddeuddeg lleoliad eiconig i fyny ac i lawr cwm yma, a oedd yn darparu tanwydd i'r byd. Mae Llwybr Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnwys lleoedd, pobl a digwyddiadau a wnaeth sicrhau mai’r Rhondda oedd y mwyaf adnabyddus o blith holl gymoedd glofaol Cymru…

Glo stêm gorau'r byd. Y frwydr am gyflog byw a arweiniodd at derfysgoedd enwog Tonypandy. Y stadiwm o’r radd flaenaf a gynhaliodd y gêm Rygbi’r Gynghrair ryngwladol gyntaf erioed. Y menywod a fu'n gwrthsefyll Mrs Thatcher. Rhai o'r corau a bandiau pres gorau yn y byd. Palasau o ddiwylliant dosbarth gweithiol. Ymdeimlad cymunedol. Hud plentyndod. Un o'r lleoedd mwyaf sanctaidd yng Nghymru'r oesoedd canol. A chwm sydd bellach yn wyrdd eto…

“Mae’n hanes unigryw, Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, tyfodd poblogaeth Cwm Rhondda ar gyfradd a oedd yn cystadlu’n rhyngwladol ag Efrog Newydd a Chicago. Mae’r Llwybr Treftadaeth yn dathlu’r ‘ddinas unionlin’ a ddeilliodd o hynny. Roedd milltiroedd o dai teras, siopau ffasiynol, tramiau trydan a neuaddau cerdd yn denu sêr fel Charlie Chaplin. Roedd yna athrofeydd, llyfrgelloedd a chapeli a oedd yn ganolfannau diwylliant ac addysg, gyda chymysgedd fendigedig o wleidyddiaeth radical.

Mae'r Llwybr yn cynnig ffordd newydd o archwilio'r hanes rhyfeddol yma. Mae pob un o’r deuddeg ‘Gorsaf Dreftadaeth’ ledled Cwm Rhondda Fawr a Chwm Rhondda Fach yn cyflwyno thema allweddol o orffennol y Cymoedd. Ym mhob Gorsaf, bydd llwybr llafar ar-lein yn trafod y dreftadaeth yma ymhellach, ac yn cysylltu â banc o fwy na chant o straeon ac atgofion a recordiwyd gan bobl leol ar gyfer Rhondda Radio, gorsaf gymunedol Cwm Rhondda.   

Agorwyd y Llwybr yn swyddogol gan y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a ddywedodd:

Rwy'n falch iawn o weld y prosiect cyffrous yma, sy'n cydnabod a dathlu hanes cyfoethog Cwm Rhondda, yn dwyn ffrwyth. Bydd y Llwybr Treftadaeth yn bluen arall yn het ddiwylliannol Rhondda Cynon Taf a bydd yn rhoi blas i ymwelwyr a thrigolion ar y tirnodau a datblygiadau nodedig sydd wedi llunio stori Cwm Rhondda hyd heddiw.

Hoffwn i longyfarch John â phawb oedd yn rhan o'r prosiect yma ac rwy'n edrych ymlaen at agor y llwybr gan alluogi cenedlaethau'r dyfodol i feddu ar yr adnodd yma er mwyn deall hanes cyfoethog yr ardal.

Roedd y seremoni’n cynnwys fideo wedi’i ffilmio’n arbennig o leoliadau’r Orsaf Dreftadaeth, gyda thrac sain cerddorol wedi’i recordio gan grŵp ifanc o Goleg y Cymoedd, gyda chefnogaeth lleisiau grymus Côr Meibion ​​Treorci. Roedd pobl Cwm Rhondda sydd wedi cyfrannu at 'ŵyl’ blwyddyn o hyd o raglenni treftadaeth ar Radio Rhondda hefyd yn cymryd rhan.

Mae’r cyfan yn rhan o Brosiect Treftadaeth Cwm Rhondda, ffrwyth grant mawr a ddyfarnwyd i Rhondda Radio gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

“Mae’r Prosiect yma'n dod â’r gorffennol yn fyw eto mewn ffordd fodern iawn,” ychwanega John Geraint. “Mae’r ffordd y mae pobl Cwm Rhondda yn adrodd y stori yn ei gwneud hi'n fywiog ac yn hanfodol i’r byd rydyn ni’n byw ynddo nawr.”

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn dod â hanes y cyfnod glofaol yng nghymoedd y Rhondda yn fyw drwy ei theithiau tanddaearol a’i harddangosfeydd rhyngweithiol, felly mae’n addas iawn bod y lleoliad yn rhan o’r llwybr ei hun ac mai dyma'r lleoliad ar gyfer lansiad y llwybr cyffrous newydd yma. Mae’r Llwybr Treftadaeth yn rheswm arall i ymwelwyr ddod draw i’r lleoliad sy’n croesawu grwpiau o bob rhan o’r byd, gwibdeithiau ysgol a theithwyr dydd drwy gydol y flwyddyn.  Mae Taith Dywys Danddaearol yr Aur Du, a arweinir gan gyn-lowyr, yn unigryw ac yn derbyn adolygiadau 5 seren yn gyson. Cydnabuwyd poblogrwydd y lleoliad yn ddiweddar gan Trip Advisor a ddyfarnodd yr wobr 'Travellers’ Choice' i’r lleoliad. Mae'r wobr yma yn cydnabod busnesau sy'n cael adolygiadau gwych yn gyson. Mae'r lleoliadau sy'n ennill gwobrau ymhlith y 10% man ar frig y rhestr ar Tripadvisor sy'n dangos ymrwymiad i ragoriaeth o ran lletygarwch. Os dydych chi ddim wedi ymweld â ni eto, dewch draw i fynd ar daith, mwynhau'r arddangosfeydd a gweithgareddau’r haf i blant ac wrth gwrs – gwrandewch ar Lwybr Llafar newydd Treftadaeth Cwm Rhondda!

I gael rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ewch i www.parctreftadaethcwmrhondda.com

Wedi ei bostio ar 02/08/24