Cyn bo hir bydd y Cyngor yn ail-wynebu dwy gylchfan ar ffordd osgoi Pentre'r Eglwys. Bydd rhan gyntaf y gwaith yn cael ei gynnal ar Gylchfan Tonteg o ddydd Mawrth. Bydd yn digwydd dros nos i leihau aflonyddwch.
Bydd Cylchfan Ton-teg ar yr A473 (yn y llun) yn cau am bedair noson yn olynol, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener (8pm-3am, 13-16 Awst). Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 3am ddydd Sadwrn, 17 Awst.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni drwy raglen gyfunol y Cyngor. Mae'r rhaglen, gwerth £7.5 miliwn, ar gyfer adnewyddu priffyrdd a llwybrau troed, drwy ei raglen gyfalaf, sy'n cael ei chyflawni yn ystod 2024/25.
Fydd dim modd defnyddio Cylchfan Ton-teg dros nos, ond bydd llwybr amgen ar gyfer modurwyr yn cael ei arwyddo’n glir.
O ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau ewch ar hyd Cylchfan Nant Celyn yr A473, Heol yr Orsaf, yr Heol Fawr, y B4595 Heol Llanilltud, Stryd y Parc, Stryd Fothergill, Cylchfan Glyn-taf, yr A4054 Heol Caerdydd, Cylchfan Glan-bad a'r A473 Heol Tonteg.
O ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau ewch ar hyd yr A473 Heol Tonteg, yr A4054 Heol Caerdydd, Cylchfan Glyn-taf, Stryd yr Afon, Heol y Fforest, Stryd y Parc, Heol Llanilltud, y B4594 Heol Ton-teg, Yr Heol Fawr, Heol yr Orsaf a Chylchfan Nant Celyn yr A473.
Mae’r rhan o’r ffordd sydd i’w chau, yn ogystal â’r llwybrau amgen ar gyfer gyrwyr, wedi’u hamlinellu ar y map a ganlyn ar wefan y Cyngor.
Bydd mynediad ar gael ar gyfer cerddwyr a'r gwasanaethau brys. Cynghorir beicwyr i ddod oddi ar y beic a chymryd y fynedfa i gerddwyr.
Yn dilyn cwblhau'r cynllun yma, bydd y Cyngor yn cyflawni gwaith nos tebyg ar Gylchfan Nant Celyn gerllaw o 17 Awst - bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 12/08/2024