Mae Vision Products yn falch o gyhoeddi bod Adam Harcombe, sy'n aelod o'r garfan, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr David Grainger yn rhan o Wobrau Cyflogaeth â Chymorth BASE 2024. Mae Gwobrau BASE yn dathlu gwaith rhagorol ym maes Cyflogaeth â Chymorth ledled y DU, ac mae Gwobr David Grainger, sydd wedi'i noddi gan Outshinej yn anrhydeddu unigolyn anabl sy'n ysbrydoli eraill i fod yn uchelgeisiol o ran cyflogaeth yn ogystal â helpu pobl i sylweddoli bod modd i bobl anabl gyflawni pob math o bethau.
Mae Vision Products, sy'n rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn geffyl blaen o ran darparu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer unigolion anabl, gan gynnig ystod o wasanaethau a chynnyrch sydd wedi'u dylunio gyda'r nod o helpu unigolion i fyw'n annibynnol. Mae'r sefydliad wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol, lle mae modd i bawb ffynnu a chyfrannu mewn modd ystyrlon, ni waeth beth fo'u gallu.
Daw'r newyddion yma ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, sy'n achlysur penodol er mwyn hyrwyddo hawliau a lles pobl anabl. Mae'r gydnabyddiaeth yma yn nodi taith ryfeddol Adam a'i ymrwymiad penderfynol i oresgyn rhwystrau drwy barhau i ffynnu yn ei swydd gyda Vision Products. Yn ogystal â hynny, mae'n atgyfnerthu ymrwymiad y cwmni i sicrhau ei fod yn gynhwysol a grymuso pob aelod o'i staff.
Meddai Adam Harcombe: "Mae hi wedi bod yn daith anodd ar brydiau, ond mae'r profiad yn werth chweil. Mae wedi bod her emosiynol a chorfforol i mi, ac mae gweithio yn Vision Products wedi fy helpu mewn mwy o ffyrdd nag yr oeddwn i'n gallu eu dychmygu. Rydw i wedi gwneud ffrindiau am oes."
Mae stori Adam yn llawn cydnerthedd ac ysbrydoliaeth. Newidiodd ei fywyd wedi iddo ddioddef trawma i'w ymennydd yn dilyn ymosodiad treisgar. Roedd Adam yn wynebu heriau sylweddol. Serch hynny, mae ei ymagwedd benderfynol a'i feddylfryd gadarnhaol wedi arwain at gyflawniadau rhyfeddol. Mae Adam yn codi arian ar gyfer elusennau ac yn cynrychioli Cymru wrth daflu'r maen mewn pencampwriaethau. Yn ei swydd gyda Vision Products, mae Adam yn ysbrydoli ei gydweithwyr. Mae gyda nifer ohonyn nhw anableddau hefyd, ac mae e'n dangos iddyn nhw bod modd cyflawni pethau rhyfeddol er gwaethaf unrhyw galedi.
Mae enwebiad Adam ar gyfer y wobr yma yn gydnabyddiaeth o'i effaith ar y gymuned. Mae ei awydd i sicrhau bod modd i bobl anabl fwynhau gyrfaoedd gwych hefyd yn amlwg yn ei waith gwirfoddol fel cyfaill i gleifion, lle mae'n cynnig gobaith a chyngor i'r rheiny sy'n wynebu heriau tebyg. Bu'n rhoi cymorth i ddyn gafodd ei barlysu o ganlyniad i anaf i'w ymennydd. Roedd anogaeth Adam wedi helpu'r unigolyn i ddod o hyd i bwrpas newydd drwy gynnig cyngor i eraill. Mae hyn yn amlygu grym trawsnewidiol ei ymagwedd gynhwysol. Mae ei stori yn amlygu grym ei ddyfalbarhad, ei natur garedig a'r effaith y mae modd i unigolyn ei chael ar gymuned.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydyn ni yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gyflawniadau Adam a'i ymroddiad i oresgyn heriau ar gyfer unigolion anabl mewn cyflogaeth.
"Mae ei stori yn amlygu'r effaith y mae modd i berson ei chael ar gymuned, ac rydyn ni'n falch iawn o'i weld yn cael ei gydnabod ar lwyfan mor anrhydeddus â Gwobrau BASE.
"Mae cyhoeddi hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl yn gwneud ei gyflawniad yn fwy arbennig fyth, gan gyfleu ymrwymiad y Cyngor a Vision Products i fod yn gynhwysol a grymuso pob aelod o staff.
"Hoffwn i longyfarch Adam yn fawr iawn ar ei gyflawniad gwych yn cyrraedd rhestr fer Gwobr David Grainger. Cyflawniad anhygoel a haeddiannol iawn."
Mae ymdrechion Vision Products o ran hyrwyddo arferion cyflogaeth cynhwysol wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau nifer o unigolion anabl, gan eu helpu nhw i gyflawni eu potensial. Mae darparu'r cyfleoedd yma yn galluogi Vision Products i helpu unigolion anabl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, meithrin sgiliau, ennill cymwysterau a dod yn fwy annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth am Vision Products a'r cynllun swyddi dan hyfforddiant, cysylltwch â:
Vision ProductsUned 2 Parc Glas, Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9GPAr y ffôn: 01443 229988
E-bost: visionproductsbusiness@rctcbc.gov.uk
Neu, ewch i'w gwefan: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/VisionProducts/Home.aspx
Mae Gwobrau BASE yn cael eu cynnal bob blwyddyn ac yn cydnabod cyflawniadau o ran dulliau recriwtio cynhwysol, yn ogystal ag amlygu arferion gorau sy'n cyfoethogi bywydau unigolion anabl, niwrowahanol a difreintiedig trwy gyflogaeth ystyrlon.
Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â Gwobrau BASE, ewch i: https://www.base-uk.org/awards
#DiwrnodRhyngwladolPoblAgAnableddau
Wedi ei bostio ar 03/12/24