Rydyn ni'n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl drigolion Rhondda Cynon Taf ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol!
Bydd y Cyngor, gan gynnwys y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid AR GAU o 5pm ddydd Llun 23 Rhagfyr (2024), tan ddydd Iau 2 Ionawr (2025). Mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth ar wahân i argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa a gwasanaethau hanfodol cyfyngedig.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau sydd ar gau, edrychwch ar y dudalen yma.
Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Fodd bynnag, rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor am 9am ddydd Iau 2 Ionawr (2025).
Er gwybodaeth i bob preswylydd, mae modd cysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng dros Ŵyl y Banc drwy ffonio 01443 425011, tu allan i oriau gweithio neu os bydd tywydd garw, o fore gwyn tan nos, saith diwrnod yr wythnos.
Wedi ei bostio ar 23/12/24