Dyma'r tymor i siopa, ond mae carfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i gofio ‘SMART’ pan fyddan nhw'n siopa dros gyfnod y Nadolig eleni.
Mae pawb wrth eu bodd â bargen ac mae'n hawdd clicio cyn meddwl, yn enwedig pan fyddwch chi'n teimlo eich bod yn rhedeg allan o amser - a dyna’r hyn mae llawer o gwmnïau llai gofalus yn dibynnu arno. Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yn gofyn i drigolion gofio'r hen ddywediad 'Os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol ei fod' cyn iddyn nhw gwblhau unrhyw bryniannau.
Daeth bron i 43M o oedolion ar draws sgamiau ar-lein yn 2023, gydag 1 ym mhob 5 yn cael eu gadael dros £1000 ar eu colled! Dyna swm na all neb fforddio ei golli, yn enwedig gydag ymweliad y dyn mawr coch mor agos!
Cofiwch ‘SMART’ wrth siopa dros gyfnod y Nadolig eleni!
Sicrhewch fod diogelwch yn dod yn gyntaf! – Er ei bod yn wych dod o hyd i fargen, gall nwyddau trydanol rhad gostio llawer mwy i chi yn y pen draw! Ar y gorau, byddwch chi'n cael cynnyrch sy'n torri'n fuan ar ôl ei brynu ac, ar y gwaethaf, rydych chi'n cynyddu'r risg o danau yn y cartref a pheryglon trydanol eraill! Prynwch gynhyrchion dilys gan fanwerthwyr ag enw da yn unig a chwiliwch bob amser am y nod CE/UKCA i sicrhau bod prawf diogelwch wedi’i gynnal. Mae hefyd yn syniad da cadw'ch derbynebau a'r deunydd pacio gwreiddiol rhag ofn y bydd unrhyw gynnyrch yn cael ei alw'n ôl.
Meddyliwch am hysbysebion camarweiniol- Cymharwch brisiau bob amser a chwiliwch o gwmpas i sicrhau bod y fargen rydych chi'n ei chael yn ddilys! Osgowch ostyngiadau sy'n rhy dda i fod yn wir ar eitemau brandiau mawr fel dillad, persawr a cholur oherwydd eich bod chi'n debygol o dderbyn cynnyrch ffug sydd o ansawdd gwael neu'n llawn cemegion cas!
Alergeddau – Mae’r Nadolig yn amser gwych i fwynhau danteithion y Nadolig ond gall hyn fod yn anodd i bobl sy’n byw ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd. Os ydych chi'n mynychu marchnadoedd bwyd a gwneuthurwyr, gwiriwch yr wybodaeth am alergenau gyda'r busnes bob amser a gwiriwch a all ddarparu ar gyfer pobl ag alergeddau. Os ydy’r busnes yn ansicr ac yn methu â sicrhau nad oeddcroeshalogi, peidiwch â’i mentro!
Rheolau dychwelyd ac ad-daliadau - Gwiriwch bolisi dychwelyd ac ad-daliadau siop cyn prynu ar-lein! Hyd yn oed os oes gyda'r cwmni gyfeiriad yn y DU, gwiriwch y cyfeiriad dychwelyd a restrir oherwydd efallai y gwelwch chi fod hwn y tu allan i'r DU! Os oes gyda chi unrhyw amheuaeth am eich hawliau, darllenwch y canllawiau i ddefnyddwyr ar wefan Cyngor ar Bopeth: Defnyddwyr - Cyngor ar Bopeth
Treuliwch ychydig o amser yn meddyliwch cyn clicio! – Wrth bori’r cyfryngau cymdeithasol, cymerwch amser i ystyried a yw’r cynnig anhygoel yna neu wobr y gystadleuaeth yn ddilys! Mae sgamwyr yn aml yn ffugio gwefannau neu frandiau cyfreithlon felly mae bob amser yn well mynd i wefannau yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy ddolenni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Mae angen i ni i gyd fod yn wyliadwrus iawn a chadw un cam ar y blaen i’r sgamwyr yma. Cofiwch bob amser fod pob math o bobl yn gallu bod yn droseddwyr, gallan nhw ymddangos yn gredadwy iawn a gallan nhw gysylltu â chi wrth y drws, dros y ffôn, yn y post neu ar-lein.
“Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pawb yn ddilys a pheidiwch â chael eich rhuthro i wneud unrhyw benderfyniadau cyflym, hyd yn oed os ydych chi wedi gadael eich siopa tan y funud olaf. Os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol ei fod! Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich rhuthro neu'ch rhoi dan bwysau i wneud penderfyniad.
“Peidiwch byth â rhoi manylion banc drwy e-bost neu dros y ffôn oni bai eich bod yn gwbl sicr i bwy rydych chi’n eu rhoi a pheidiwch byth â chlicio ar ddolen o ffynhonnell e-bost anhysbys gan y gall hyn roi mynediad i’r troseddwyr at eich cyfrifiadur a’ch manylion personol.”
Am gyngor pellach, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth trwy ffonio 0808 223 1133 neu e-bostio safonaumasnach@rctcbc.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach
Wedi ei bostio ar 16/12/2024