Skip to main content

Lido Ponty: Sesiynau Nofio San Steffan a Dydd Calan

Santa at the Lido-2

*****Mae pob tocyn wedi'i werthu ar gyfer ein Sesiynau Nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan****

Yn dilyn ymdrech enfawr gan y staff, rydyn ni'n falch o gadarnhau y bydd Lido Ponty yn barod ar gyfer Sesiynau Nofio San Steffan a Dydd Calan 2024. Bydd tocynnau'n mynd ar werth am 9am, fore Mawrth, 17 Rhagfyr.

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn heriol iawn yn yr atyniad, a gafodd ei ddifrodi yn ystod Storm Bert.

Fe wnaeth Stom Darragh effeithio ymhellach ar y gwaith atgyweirio ac adfer. Fodd bynnag, diolch i ymroddiad staff Lido Ponty, mae bellach yn gweithredu yn ôl yr arfer.

Ymunwch â ni ar 26 Rhagfyr - cofiwch eich hetiau Siôn Corn - am sesiwn nofio gynnes (28 gradd) wedyn siocled poeth Nadoligaidd. Neu dechreuwch 2025 mewn steil gyda sesiwn nofio i’r teulu ar Ddydd Calan. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.

“O’r cyffro o groesawu ymwelwyr o bedwar ban byd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf i’r dinistr a gafodd ei achos unwaith eto gan y stormydd.

“Rydw i, a'r cwsmeriaid hefyd, yn hynod ddiolchgar i’r staff anhygoel a weithiodd nid yn unig ar y safle yn ystod y stormydd i amddiffyn y Lido cymaint â phosibl, ond a weithiodd yn ddiflino i agor ein Lido poblogaidd yn barod ar gyfer y Nadolig.

"Diolch i bawb.

"Dyma'ch cyfleoedd olaf i fwynhau sesiwn nofio yn Lido Ponty cyn iddo gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw cyn i'r prif dymor ailddechrau adeg Pasg 2025.  Sicrhewch eich bod yn prynu eich tocyn cyn gynted â phosibl gan eu bod nhw’n gwerthu’n gyflym.

"Mae miloedd o bobl wedi mwynhau Lido Ponty eleni, gyda sesiynau nofio ben bore, sesiynau nofio yn y prynhawn, sesiynau hwyl i'r teulu a'r sesiynau nofio mewn dŵr oer poblogaidd." Hyd yma, mae 770,000 o bobl wedi ymweld â'r lleoliad ers iddo ailagor ym mis Awst 2015.”

Bydd tocynnau ar gyfer y sesiynau yma'n mynd ar werth am 9am ddydd Mawrth, 17 Rhagfyr.  Prynwch eich tocyn cyn gynted â phosibl gan eu bod nhw'n gwerthu allan bob blwyddyn! 

Mae croeso i nofwyr o bob oedran ymuno â'r ddwy sesiwn ac mae croeso i chi wisgo siwtiau dŵr.  Mae ystafelloedd newid a chawodydd cynnes dan do ar gael ar gyfer y rheiny nad ydyn nhw eisiau paratoi yn yr ystafelloedd newid awyr agored gwreiddiol.

Bydd pum sesiwn yn cael eu cynnal rhwng 8am a 2pm ar y ddau ddiwrnod.

Mae modd prynu tocynnau ar-lein yma: www.lidoponty.co.uk

Wedi ei bostio ar 12/12/24