Mae'r Cyngor wedi lansio Grant Gwrthsefyll Llifogydd i Fusnesau i helpu busnesau bach a chanolig sydd mewn perygl o lifogydd i roi mesurau diogelu newydd ar waith yn eu heiddo. Mae modd i'r Grant gyfrannu tuag at 100% o gostau cymwys y prosiect, hyd at uchafswm o £10,000, i bob busnes cymwys.
Mae'r grant newydd yn bosibl diolch i £250,000 o gyllid gan y Cyngor. Y nod yw helpu busnesau Rhondda Cynon Taf i allu gwrthsefyll stormydd y dyfodol. Mae tywydd garw wedi taro'r Fwrdeistref Sirol yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys Storm Bert ar 24 Tachwedd pan gafodd nifer sylweddol o fusnesau eu heffeithio'n ddifrifol gan lifogydd.
Cafodd cynllun tebyg ei lansio ar ôl Storm Dennis yn 2020, ac roedd busnesau a fanteisiodd ar y grant wedyn yn llawer mwy parod i wrthsefyll ac amddiffyn eu hunain rhag llifogydd yn ystod Storm Bert.
Mae modd i chi ddarllen rhagor o wybodaeth am y Grant Gwrthsefyll Llifogydd i Fusnesau ar wefan y Cyngor, yma. Mae'r wefan yn cynnwys rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys a sut i wneud cais, a ffurflen Mynegi Diddordeb i'w llenwi a'i dychwelyd at adfywio@rctcbc.gov.uk.
Bydd y Grant yn rhoi blaenoriaeth i'r busnesau bach a chanolig hynny sy'n gallu dangos eu bod nhw wedi'u heffeithio gan lifogydd yn ystod Storm Bert. Fodd bynnag, mae hawl i bob busnes bach a chanolig wneud cais. Mae hawl i fusnesau sydd ddim yn berchen ar yr eiddo wneud cais am y grant, ond rhaid iddyn nhw ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y landlord i wneud y gwaith.
Mae modd i ni roi cyllid i dalu am ystod o waith gyda'r grant, megis drysau mewnol, llifddorau, gorchuddion llawr, sgyrtin, bordiau waliau mewnol, ailosod pwyntiau trydan yn uwch, a mannau storio stoc/offer dan do.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae'r Cyngor wedi cyflwyno'r cyllid pwysig yma, gwerth £250,000, i helpu busnesau ledled y Fwrdeistref Sirol i ddiogelu eu heiddo rhag llifogydd y dyfodol. Bydd modd i'r grant dalu hyd at £10,000 am gostau llawn prosiectau cymwys, heb unrhyw gyllid cyfatebol gan y busnesau sy'n elwa.
"Gwelson ni i gyd y llifogydd ofnadwy yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd, ac mae'n amlwg bod bygythiad Newid yn yr Hinsawdd yn anffodus yn gwneud digwyddiadau tywydd garw o'r fath yn fwy cyffredin. Bydd y Grant Gwrthsefyll Llifogydd i Fusnesau sydd newydd ei sefydlu yn rhoi blaenoriaeth i'r busnesau hynny a gafodd eu heffeithio'n wael gan Storm Bert. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle i fusnesau eraill ledled Rhondda Cynon Taf wneud cais os ydyn nhw'n credu eu bod nhw mewn perygl o lifogydd.
"Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y cymorth brys y darparodd y Cyngor yn syth ar ôl Storm Bert. Darparodd y Grant Adfer Cymunedau (Llifogydd) £500,000 o'r Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol i gynnig cymorth ariannol i eiddo preswyl a busnes a ddioddefodd lifogydd. Mae'r cymorth gwerth £1,000 wedi cyrraedd 181 aelwyd a 51 busnes hyd yn hyn.
"Dyma annog yr holl fusnesau bach a chanolig a gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn ystod yr wythnosau diwethaf i ddarllen rhagor o wybodaeth am y Grant Gwrthsefyll Llifogydd i Fusnesau ar wefan y Cyngor, a gwneud cais drwy lenwi'r ffurflen mynegi diddordeb."
I gael rhagor o wybodaeth am yr help sydd ar gael i drigolion a busnesau yn dilyn Storm Bert, ewch i'r dudalen 'Cymorth Llifogydd' ar ein gwefan.
Wedi ei bostio ar 16/12/2024