Skip to main content

Diweddariad: Gwaith dros nos ar yr A472 oddi ar Gylchfan Abercynon

Abercynon roundabout

Y DIWEDDARAF - 16/12/24. Cafodd y trefniadau cau ar gyfer nos Lun a nos Fawrth (9-10 Rhagfyr) eu canslo. Cafodd y gwaith ei gynnal nos Fercher a nos Iau (11-12 Rhagfyr) ac mae'r cynllun wedi'i gwblhau i raddau helaeth.

 

Dylai defnyddwyr y ffyrdd fod yn ymwybodol bydd rhan o'r ffordd rhwng #Abercynon a Chylchfan Fiddler's Elbow yn cau dros bedair noson yn olynol er mwyn cynnal gwaith hanfodol.

Mae angen cyflawni'r gwaith er mwyn tynnu'r grid gwartheg yn barhaol oddi ar y rhan yma o'r A472 - bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 8pm a 4am bob nos o ddydd Llun, 9 Rhagfyr tan ddydd Iau, 12 Rhagfyr. Bydd y ffordd ar gau am y tro olaf felly am 4am, fore Gwener, 13 Rhagfyr.

Bydd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad. Mae map yn nodi rhan y ffordd fydd ar gau a llwybr amgen wedi'i gynnwys ar wefan y Cyngor, yma.

Bydd arwyddion yn dangos y llwybr amgen yn y ddau gyfeiriad ar gyfer gyrwyr.

Llwybr Amgen - ewch ar hyd yr A470, Cylchfan Stryd y Bont, Heol Coedpenmaen, A4054 Heol Merthyr, Heol Cilfynydd a Chylchfan Fiddler's Elbow.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ac i eiddo, ond fydd dim mynediad i gerddwyr.

Bydd y gwaith yn amodol ar dywydd addas. Bydd unrhyw newidiadau i'r trefniadau uchod yn cael eu rhannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Diolch i bawb sy'n defnyddio'r ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 11/12/2024